Lleucu Siencyn
Mae’r cwmni llenyddol cenedlaethol, Llenyddiaeth Cymru, wedi cyhoeddi mai Lleucu Siencyn fydd y PrifWeithredwr newydd.
Mae hi’n wyneb cyfarwydd ar y sin llenyddol yng Nghymru – fe fu’n Swyddog Llenyddiaeth i Gyngor Celfyddydau Cymru ac yna bu’n Ddirprwy Brif Weithredwr yr Academi rhwng 2002 a 2011.
Gadawodd ei rhagflaenydd, Peter Finch, y swydd nôl ym mis Mehefin eleni a chamodd Lleucu Siencyn i’r adwy dros dro, gan roi ar waith nifer o brojectau newydd.
Yn eu plith roedd cyhoeddi enw’r Awdur Llawryfog Saesneg i Bobol Ifanc, cyhoeddi partneriaethau newydd gyda chyrff fel Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a menter Y Lolfa Lên yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd.
Mae hi’n wreiddiol o bentref Talgarreg yn Sir Aberteifi ac astudiodd Saesneg yn Rhydychen. Mae wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers tro byd. Mae hi bellach yn fam i ddau o blant bach, ac yn briod ag Owain Rhys, sy’n Guradur Bywyd Cyfoes yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
Yn ôl y Prif Weithredwr newydd, bydd yn “fraint” cael bod wrth y llyw yn ystod cyfnod “hanesyddol” yn hanes y sefydliad.
“Dw i’n edrych ymlaen at gymryd yr awenau ac arwain Llenyddiaeth Cymru drwy gyfnod cyffrous a hanesyddol,” meddai Lleucu Siencyn. “Mi fydd yn fraint cael datblygu’r weledigaeth newydd a sicrhau fod llenyddiaeth yn berthnasol i bawb.
“Breuddwydiodd Waldo Williams, un o sylfaenwyr yr Academi Gymreig, am ‘berci llawn pobl’, a’n gobaith yw y bydd pawb yng Nghymru – boed mewn perci neu drefi – yn elwa o weithgareddau a bywiogrwydd Llenyddiaeth Cymru.”
“Mae’n wych cael croesawu merch frwdfrydig, brofiadol i redeg ein prif asiantaeth lenyddol,” meddai Harri Pritchard Jones, Cyd-gadeirydd Llenyddiaeth Cymru. “Mae ei chefndir a’i haddysg a’i gyrfa wedi golygu ei bod yn gyfarwydd â’n byd llenyddol yn y ddwy iaith, ac mae hi wedi cadw llygad ar y byd llenyddol a chelfyddydol ehangach.
“Bydd ei phersonoliaeth a’i hegni ymenyddol, hefyd, yn werthfawr iawn wrth ddatblygu a hyrwyddo’r corff newydd, Llenyddiaeth Cymru.”
Eleni, ymunodd yr hen Academi â Chanolfan Sgrifennu Tŷ Newydd a chreu sefydliad cenedlaethol newydd, Llenyddiaeth Cymru. Cafodd yr hen enw ei gadw ar gyfer y gymdeithas llenorion, Yr Academi Gymreig.
Y mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig ysgoloriaethau, yn cynnal Gwobr Llyfr y Flwyddyn a’r Cynllun Awduron ar Daith, yn cyhoeddi cylchgrawn Taliesin (sy’n dathlu ei hanner cant eleni), ac yn trefnu amrywiol weithdai a lansiadau llyfrau ar hyd y wlad ynghyd â’r Sgwadiau Sgwennu i’r ifainc.