Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Swyddfa Rheilffordd yr Wyddfa neithiwr ar ol i dân ddechrau yn un o’r adeiladau.
Dywedodd swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrth Golwg360 eu bod nhw wedi cael eu galw am 8.50pm nos Sul ar ôl i lawr cyntaf y swyddfa wrth stesion trên bach Yr Wyddfa fynd ar dân.
Mae’n debyg bod tân wair wedi cynnau yng nghefn y swyddfa ac wedi lledu i’r adeilad.
Roedd pedwar injan dân yno gan gynnwys un o Lanberis, dau o Gaernarfon ac un o Fangor.
Chafodd neb eu hanafu.