Bydd y ffagl Olympaidd yn ymweld â dros 80 o leoliadau gwahanol yng Nghymru fis Mai 2012, cafodd ei ddatgelu heddiw.
Bydd dros 95% o’r boblogaeth o fewn deg milltir i’r ffagl Olympaidd flwyddyn nesaf wrth iddi wneud ei ffordd i Stadiwm Olympaidd Llundain.
Fe fydd y ffagl yn dod i Sir Fynwy yng Nghymru ar 25 Fai ac yn teithio drwy wahanol leoliadau yng Nghymru tan 30 Fai.
Bydd yn teithio drwy ardaloedd megis y Fenni, Pontypwl, Casnewydd, Caerdydd, Pontypridd, Barri, Caerffili, Abertawe, Aberaeron, Llanrhystud, Aberystwyth, Dolgellau, Porthmadog, Pwllheli, Caernarfon, Cei Connah, Rhuddlan a Wrecsam.
Mae pwyllgor trefnu’r Gemau Olympaidd heddiw wedi cadarnhau enwau’r holl gymunedau y bydd y ffagl yn teithio drwyddynt.
Fe fydd y fflam yn cael ei chario ar gefn ceffyl, beic, tram a thrên stem.
Yn ôl trefnwyr, fe fydd y fflam yn mynd drwy 1,018 o bentrefi, trefi a dinasoedd ym Mhrydain i gyd a bydd y fflam awr i ffwrdd o 95% o’r boblogaeth.
Bydd cynllun stryd y fflam yn cael ei ddatgelu’r flwyddyn nesaf.
Bydd y fflam yn ymweld â sawl cyrchfan boblogaidd gan gynnwys Yr Wyddfa, Stormont, Loch Ness a Chôr y Cewri.
Dyma restr y lleoliadau yng Nghymru:
Y daith drwy Gymru
25 Mai Sir Fynwy
25 Mai 2012 Raglan
25 Mai 2012 Y Fenni
25 Mai 2012 Brynmawr
25 Mai 2012 Blaenafon
25 Mai 2012 Abersychan
25 Mai 2012 Pont-y-pŵl
25 Mai 2012 Casnewydd
25 Mai 2012 Caerdydd
26 Mai 2012 Caerdydd
26 Mai 2012 Dinas Powys
26 Mai 2012 Barri
26 Mai 2012 Caerffili
26 Mai 2012 Pontypridd
26 Mai 2012 Merthyr Tydfil
26 Mai 2012 Treherbert
26 Mai 2012 Ynyswen
26 Mai 2012 Treorci
26 Mai 2012 Nant-y-moel
26 Mai 2012 Cwm Ogwr
26 Mai 2012 Bryncethin
26 Mai 2012 Pen-y-bont ar Ogwr
26 Mai 2012 Laleston
26 Mai 2012 Y Pîl
26 Mai 2012 Margam
26 Mai 2012 Taibach
26 Mai 2012 Port Talbot
26 Mai 2012 Llansawel
26 Mai 2012 Castell-nedd
26 Mai 2012 Abertawe
27 Mai 2012 Abertawe
27 Mai 2012 Llanelli
27 Mai 2012 Porth Tywyn
27 Mai 2012 Cydweli
27 Mai 2012 Caerfyrddin
27 Mai 2012 Hwlffordd
27 Mai 2012 Abergwaun
27 Mai 2012 Casnewydd
27 Mai 2012 Aberteifi
27 Mai 2012 Sarnau
27 Mai 2012 Brynhoffnant
27 Mai 2012 Llanarth
27 Mai 2012 Aberaeron
27 Mai 2012 Llanon
27 Mai 2012 Llanrhystud
27 Mai 2012 Aberystwyth
28 Mai 2012 Aberystwyth
28 Mai 2012 Bow Street
28 Mai 2012 Tal-y-bont
28 Mai 2012 Tre Taliesin
28 Mai 2012 Machynlleth
28 Mai 2012 Dolgellau
28 Mai 2012 Llan Ffestiniog
28 Mai 2012 Blaenau Ffestiniog
28 Mai 2012 Porthmadog
28 Mai 2012 Criccieth
28 Mai 2012 Pwllheli
28 Mai 2012 Bontnewydd
28 Mai 2012 Caernarfon
28 Mai 2012 Y Felinheli
28 Mai 2012 Bangor
29 Mai 2012 Biwmares
29 Mai 2012 Porthaethwy
29 Mai 2012 Conwy
29 Mai 2012 Deganwy
29 Mai 2012 Llandudno
29 Mai 2012 Bae Penrhyn
29 Mai 2012 Llandrillo-yn-Rhos
29 Mai 2012 Bae Colwyn
29 Mai 2012 Hen Golwyn
29 Mai 2012 Abergele
29 Mai 2012 Towyn
29 Mai 2012 Bae Cinmel
29 Mai 2012 Rhyl
29 Mai 2012 Rhuddlan
29 Mai 2012 Cei Connah
29 Mai 2012 Shotton
29 Mai 2012 Queensferry
29 Mai 2012 Penarlâg
29 Mai 2012 Saltney
29 Mai 2012 Caer
30 Mai 2012 Caer
30 Mai 2012 Wrecsam
30 Mai 2012 Rhostyllen
30 Mai 2012 Acrefair
30 Mai 2012 Trefor
Gweler www.london2012.com/olympictorchrelaymap i weld taith gyfan y fflam.