Criw Celf Gwynedd
Mae cynllun celf poblogaidd yng Ngwynedd wedi profi’n gymaint o lwyddiant fel ei fod yn cael ei ledaenu i holl siroedd eraill y gogledd.
Ers ei sefydlu yn 2008, mae’r cynllun ‘Criw Celf’ yn rhoi cyfle i blant sydd wedi dangos dawn a diddordeb arbennig mewn celf i ymarfer a datblygu eu sgiliau o dan gyfarwyddyd artistiaid proffesiynol lleol. Mae’r plant yn mynychu cyfres o sesiynau meistr undydd yng nghwmni artistiaid proffesiynol sy’n arbenigo mewn meysydd amrywiol.
Dywedodd Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd:
“Mae Criw Celf wedi bod yn gynllun poblogaidd o’r dechrau, ac wedi rhoi cyfleoedd gwych i artistiaid ifanc weld meistri wrth ei gwaith.
“Mae’n newyddion rhagorol bod siroedd eraill y gogledd wedi mabwysiadu’r cynllun.
“Mae’n golygu y bydd y math o weithgareddau celf sydd wedi bod ar gael i blant Gwynedd ers rhai blynyddoedd bellach yn cael eu cynnig i holl blant blwyddyn 5 a 6 gogledd Cymru.”
Bydd y cynllun yn cael ei ariannu gan gynghorau sir y gogledd ar y cyd â Cyngor Celfyddydau Cymru.
Help i ysgolion Gwynedd a Môn
Er bod dosbarth Criw Celf Gwynedd yn llawn am eleni, mae help ariannol ar gael yn y cyfamser i ysgolion Gwynedd a Môn agor eu drysau i artistiaid proffesiynol.
Mae gan yr ysgolion tan ddiwedd y mis yma i gyflwyno cais am grantiau i gynnal gweithgareddau artistiaid preswyl. Fe fydd angen iddyn nhw gael hyd i 30% o arian cyfatebol a chyflwyno’u cais cyn 30 Tachwedd i Asiantaeth Gelfyddydol Ysgolion Gwynedd a Môn.
Meddai Gwawr Wyn Roberts:
“Mae’r grantiau ar gael am nawdd i gynnal pob math o weithgareddau, boed y rheini’n weithgareddau cerdd, dawns, drama neu gelf yn ein hysgolion.
“Mae cymaint o weithgareddau celfyddydol yn digwydd yn y ddwy sir ac mae rhoi cyfle i’r plant gydweithio â’r artistiaid eu hunain yn ffordd ardderchog o annog eu diddordeb.
“Fe fydd cyrsiau achlysurol hefyd ar gael i’r artistiaid eu hunain sy’n cynnig hyfforddiant ar sut i gynnal prosiectau celfyddydol mewn ysgolion.”