James Pritchard
Mae angen i wleidyddion gadw at eu hymrwymiad i ddileu tlodi plant erbyn 2020 yn ôl pennaeth yr elusen Achub y Plant.
“Ein nod ni heddiw yw gwneud yn siwr bod ein gwleidyddion yn ail-ymrwymo i’r targed o ddileu tlodi plant erbyn 2020. Mae e yn addewid y gwnaethon nhw yn 1999. Rydyn ni yn credu ei bod hi yn holl bwysig eu bod nhw yn cadw at yr addewid ac yn gweithio tuag at yr addewid hwnnw,” meddai James Pritchard.
Roedd yn siarad yn ystod cynhadledd genedlaethol ar dlodi plant yng Nghaerdydd a gafodd ei threfnu gan Achub y Plant a Plant yng Nghymru. Nod y gynhadledd oedd trafod sut i fynd i’r afael a thlodi yng Nghymru.
‘Byw mewn tlodi’
Mae’r elusen yn dweud bod 200,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi heddiw gyda 90,000 mewn tlodi enbyd.
“Mae hynny yn golygu mynd i gwely heb swper, cael eich magu mewn tŷ oer, bod eich rhieni ddim yn gallu fforddio prynu gwisg ysgol, peidio cael y cyfleoedd i wneud y pethau y mae plant yn disgwyl gwneud yn ystod eu plentyndod. Mae hynny yn gwneud hi yn anodd iddyn nhw astudio, yn anodd iddyn nhw wneud yn dda yn eu bywydau, i gyflawni. Mae e yn golygu eich bod chi yn llawer mwy tebygol i fod yn oedolyn gyda phroblemau iechyd. Yn y pendraw mae e yn golygu eich bod chi yn mynd i fagu eich plant eich hun mewn tlodi. Felly mae’r broblem jest yn creu problem arall mewn ugain mlynedd.”
Yn ystod y gynhadledd fe bwysleisiodd y Dirprwy Weinidog Plant, Gwenda Thomas bod mynd i’r afael a thlodi plant yn ‘flaenoriaeth’ i Lywodraeth Cymru.
“Nid oes unrhyw amcan uwch na sicrhau bod plant mewn tlodi yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd a phawb arall. Mae’r hinsawdd economaidd ac ariannol yn ei gwneud yn bwysicach byth ein bod yn cadw at ein hymroddiad o fynd i’r afael a thlodi plant gan flaenoriaethu anghenion y tlotaf ac amddifyn y rhai mwyaf bregus,”meddai.
Er fod pennaeth Achub y Plant yn cydnabod bod y sefyllfa economaidd a rhaglen Llywodraeth San Steffan o doriadau yn mynd i gael effaith yng Nghymru, mae’n parhau yn ffyddiog bod hi yn bosib mynd i’r afael a thlodi.
“Mae yna ddigon o bobl alluog yng Nghymru. Mae yna ddigon o ymroddiad, digon o egni. Mae pobl wir yn poeni am hyn ac eisiau gwneud rhywbeth am y peth. Ac yn y pendraw mae’n rhaid i’r bobl yma fynd ati i weithio, gweithio gyda’i gilydd a meddwl am syniadau a pholisiau i wneud yn siwr bod plant Cymru ddim yn dioddef oherwydd bod economi y byd yn dioddef.”