Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i fedalau gael eu darganfod mewn tŷ yng Nghaerffili.

Mae’r heddlu wedi rhyddhau lluniau o’r medalau oedd wedi eu gadael mewn tŷ yn Greenhill Place, Gelligaer, Caerffili.

Mae’r Heddlu’n credu bod y medalau wedi’u dwyn ac mae nhw’n awyddus i’w dychwelyd i’w perchennog.

Os oes rhywun yn gwybod pwy sy’n berchen y medalau, fe ddylen nhw gysylltu gyda heddlu Gwent ar 101.