Mae Cymru’n wynebu diweithdra ar raddfa sydd heb ei gweld yn y Deyrnas Unedig “ers degawdau” yn sgil pandemig y coronafeirws, meddai’r Gweinidog Cyllid Ken Skates.

Daw hyn wedi i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddweud bod oddeutu 612,000 o bobol ar draws y Deyrnas Unedig wedi colli eu swyddi rhwng mis Mawrth a Mai.

Dywed Ken Skates, er bod cynllun cadw swyddi’r Deyrnas Unedig wedi bod yn “llwyddiant”, fod gweinidogion bellach yn paratoi pecynnau cefnogaeth i helpu pobol yn ôl i swyddi os ydyn nhw allan o waith pan ddaw’r cynllun i ben fis Hydref.

“Mae’r holl ddangosyddion yn awgrymu y bydd yno “ddiweithdra ar raddfa sydd heb gael ei weld yn y Deyrnas Unedig ers degawdau,” meddai.

‘Cuddio beth sy’n debygol o ddigwydd’

Yn ôl Ken Skates, mae diweithdra yng Nghymru ar 3% o’i gymharu â 3.9% ar draws y Deyrnas Unedig, ond dywed fod y ffigwr hwn yn “cuddio beth sy’n debygol o ddigwydd.”

Mae dros 316,000 o bobol yng Nghymru ar ffyrlo, gyda 102,000 o bobol hunan gyflogedig yn defnyddio’r cynllun cefnogaeth incwm hunan gyflogedig.

Roedd nifer y bobol oedd yn derbyn budd-daliadau yng nghanol mis Mai wedi dyblu i 118,600 o’i gymharu â’r un adeg flwyddyn ddiwethaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ddydd Mawrth (Mehefin 16), dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod wyth person wedi marw ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, gan gymryd y cyfanswm i 1,456.

Mae nifer yr achosion wedi cynyddu o 65, gan gymryd y cyfanswm i 14,869.