Mae ymchwil “ddamniol” gan Goleg Prifysgol Llundain yn datgelu ffigurau ymgysylltu ‘anhygoel’ o isel rhwng disgyblion Cymru a’u hysgolion, yn ôl Plaid Cymru, sy’n dweud eu bod nhw’n “hynod siomedig”.

Mae’r ymchwil yn dangos mai dim ond 2% o blant yng Nghymru sy’n derbyn pedair neu fwy o wersi ar-lein bob dydd, a rhain yn ôl y Blaid yw’r ffigwr isaf yng ngwledydd Prydain.

Yn Llundain, mae 12.5% o ddisgyblion yn derbyn pedair neu fwy o wersi ar-lein bob dydd a 7% ar gyfartaledd drwy wledydd Prydain.

O ran gwaith all-lein, mae’r ffigurau’n dangos mai dim ond 14.6% o blant Cymru sy’n derbyn 4 gwers all-lein neu fwy y dydd, yr ail ffigwr isaf ym Mhrydain, o’i gymharu â 25.2% o blant yng Ngogledd Iwerddon a 27.7% yn ne-ddwyrain Lloegr.

‘Aneffeithiol’

Dywed Sian Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, fod yr ymchwil wedi tynnu sylw at ba mor “aneffeithiol” oedd mesurau addysg gartref, a bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant o’r cefndiroedd mwyaf breintiedig a’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn ehangu.

Nododd Sian Gwenllian, er mai un arolwg oedd hwn gyda sampl cyfyngedig, fod yr ymchwil yn dangos darlun pryderus iawn o addysg yng Nghymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws – sy’n cael ei hatgyfnerthu gan dystiolaeth ar lawr gwlad.

Mae angen i Lywodraeth Cymru “weithredu’n gyflym”, meddai, i liniaru’r effeithiau trwy gasglu data pellach i ddarganfod gwir raddfa’r broblem ac i gynllunio “ymyriadau addas”.

Dywedodd fod casglu’r data hwn yn hanfodol i sefydlu cynrychiolaeth lawn a dibynadwy o addysg yng Nghymru yn ystod yr amser hwn, a’i bod hi wedi syfrdanu nad oedd y math hwn o ddata eisoes wedi’i gasglu er mwyn gosod targedau effeithiol.

‘Mwy o ddata, mwy o ymchwil, a mwy o dryloywder’

Ychwanega Sian Gwenllian y dylai’r Llywodraeth gynnal ymchwil drylwyr gan edrych ar gysylltedd digidol, cyswllt rhwng disgyblion a’u hysgolion, a’r amser y mae disgyblion yn eu treulio yn dysgu gartref.

“Cyfaddefodd y Prif Weinidog ei hun yr wythnos diwethaf na fu unrhyw gyswllt â’u hysgol i lawer o blant ac efallai bod eu profiad o ddysgu o bell ‘wedi bod yn gymysg’” meddai.

“Os yw’n gwybod maint llawn y broblem – pam nad yw’n gweithredu, yn hytrach na brwsio’r broblem o dan y carped?

“Mae’r Alban wedi buddsoddi llawer mwy i sicrhau fod gan ddisgyblion fynediad at offer digidol o gymharu â Chymru, ac yn ddiweddar wedi ymrwymo £30 miliwn yn ychwanegol at yr hyn y maent eisoes wedi’i fuddsoddi – o’i gymharu â’r £3 miliwn a neilltuwyd yng Nghymru.

“Dylid edrych ar frys ar flaenoriaethau rhaglen gysylltedd Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad yw cysylltedd digidol yn rhwystr i blant difreintiedig a’u haddysg.

“Mae angen mwy o ddata, mwy o ymchwil, a mwy o dryloywder arnom ar frys.

“Mae’n anhygoel nad yw Llywodraeth Cymru eisoes yn casglu data ac yn gosod targedau. Mae angen i ni wybod faint o ddisgyblion sydd heb liniadur personol neu fynediad cywir i’r rhyngrwyd.

“Mae angen i ni wybod faint o ddisgyblion sy’n mewngofnodi i’w haddysg – a faint sydd heb gyswllt o gwbl. Mae data cywir ar yr agweddau hyn yn fater o flaenoriaeth fel y gall Llywodraeth Gymru roi cynllun gweithredu cadarn ar waith.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae ysgolion yng Nghymru yn defnyddio ystod eang o ddulliau i sicrhau parhad dysgu i ddisgyblion, gyda chymorth ein cynllun ‘Cadw’n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu’ yn ystod y pandemig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae ein prif lwyfan dysgu ar-lein, Hwb, yn parhau i chwarae rhan hollbwysig o ran cefnogi’r gwaith o ddarparu addysg yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn, gyda 2.5 miliwn o fewngofnodau y mis, ar gyfartaledd, dros y tri mis diwethaf, cynnydd o 134% ar y flwyddyn flaenorol. Cafwyd hefyd dros 9.5 miliwn o ymweliadau y mis dros yr un cyfnod – cynnydd o 157% ar y flwyddyn cyn. Mae mwy na 99% o ysgolion yn cymryd rhan weithredol mewn defnyddio’r platfform.

“Rydym hefyd wedi darparu 9,339 o drwyddedau meddalwedd, sydd wedi galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i ail-ddefnyddio dyfeisiau ysgol a galluogi dysgu ar-lein. Rydym hefyd wedi darparu 10,848 o ddyfeisiau ‘mi-fi’ i gael mynediad di-wifr i’r rhyngrwyd.

“Ein bwriad yw defnyddio wythnosau olaf tymor yr haf i sicrhau bod disgyblion, staff a rhieni yn barod – yn feddyliol, yn emosiynol ac yn ymarferol – ar gyfer mis Medi.”