Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw am fuddsoddi £300,000 yn Smile Plastics, cwmni sy’n rhoi bywyd newydd i blastig sydd wedi’i ailgylchu.
Mae’r cwmni o Abertawe’n creu cynnyrch o wastraff plastig megis deunydd pecynnu bwyd a cholur, yn ogystal â deunyddiau i’w defnyddio ym myd pensaernïaeth.
Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at greu 18 o swyddi newydd a diogelu dwy arall, yn ogystal â helpu’r cwmni i ehangu a chynyddu ei gynhyrchiant.
Dywed Llywodraeth Cymru fod hwn yn “gyfraniad hanfodol at adferiad yr economi leol ar ôl y coronafeirws”.
Bydd hefyd yn golygu bod Smile Plastics yn gallu ailgylchu mwy bob blwyddyn.
Bydd Smile Plastics yn cael benthyciad ad-daladwy o £150,000 trwy Gronfa Dyfodol yr Economi a grant o £150,000 trwy Gronfa’r Economi Gylchol sy’n cael ei gweinyddu gan WRAP Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
‘Cymru’n dangos y ffordd’
“Mae Cymru eisoes yn dangos y ffordd i weddill y DU o ran ailgylchu ond carem ein gweld yn mynd ymhellach a dod y wlad orau yn y byd am ailgylchu – a symud y tu hwnt i ailgylchu,” meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.
“Rydym ar ein taith at economi gylchol – lle rydym yn osgoi creu gwastraff ac yn defnyddio adnoddau mor hir ag y medrwn.”
“Rydym yn falch iawn o’r £300,000 hwn gan Lywodraeth Cymru,” meddai Rosalie McMillan, cyfarwyddwr Smile Plastics.
“Bydd yr arian yn allweddol i feithrin ein gallu i wireddu’n gweledigaeth ar gyfer troi gwastraff yn ddeunydd addurniadol ledled y byd.”