Mae nifer y bobol sy’n hawlio budd-dal diweithdra wedi dyblu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd 118,600 o bobol wedi hawlio yn ystod y flwyddyn, sy’n cyfateb i 6.2% o bobol oed gwaith rhwng 16-64 oed.
7.5% oedd y ffigwr yng Nghasnewydd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.
Ond ar y cyfan, mae lefel diweithdra wedi gostwng, gyda 47,000 yn ddi-waith rhwng Chwefror ac Ebrill – 4,000 yn llai na’r chwarter blaenorol a 22,000 na’r un cyfnod y llynedd.
3% sy’n ddi-waith, o’i gymharu â 3.9% trwy wledydd Prydain, sy’n golygu cwymp bach o 15,000 o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Mae oriau gwaith pobol hefyd wedi gostwng, yn rhannol oherwydd y coronafeirws, gyda chwymp o 8.9% trwy wledydd Prydain – a chyfanswm o 94.2m o oriau.
Mae 23.2% o bobol yng Nghymru yn economaidd anweithgar, naill ai oherwydd eu bod nhw’n sâl, yn gofalu am rywun neu mewn addysg lawn amser.