Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud wrth Golwg360 eu bod yn gobeithio y bydd sianel newydd ar y we yn  “adnodd diwylliannol diddorol a heriol i Gymry ifanc ” yn ogystal a bod yn  “hwb bach i S4C”.

Fel prosiect i ddathlu 50 mlwyddiant y Gymdeithas ac “fel protest yn erbyn y diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes” bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn darlledu’n wythnosol o sianel y Gymdeithas, Sianel 62, ar y we.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am gydlynydd ar gyfer y prosiect.

“Sianel rydan ni’n hybu ein hunain fydd hi ond bydd  yn agored ar gyfer cyfraniadau gan lawer o bobl,” meddai Ffred Ffransis wrth Golwg360.

Bwriad y Gymdeithas yw darlledu dwy awr o ddeunydd wythnosol ar y we ar Ddydd Sul am chwe mis, o ddechrau Chwefror nesaf hyd at wythnos y Steddfod. Y gynulleidfa darged yw Cymry Cymraeg ifanc.

‘Hybu brwydr y Gymdeithas’

“Mae gyda ni’r nod deublyg o hybu brwydr y Gymdeithas ond hefyd i ddarparu sianel fydd yn adnodd diwylliannol diddorol i Gymry Cymraeg ifanc,” meddai.

“Byddwn ni’n gwahodd pawb i uwchlwytho deunydd – i wneud hynny ar y sianel ac i’w ddefnyddio fel adnodd. Wrach tua wyth o’r gloch bob nos Sul byddwn ni’n cyhoeddi dwy awr o raglenni – dwy awr o bytiau,” meddai cyn dweud y bydd y sianel hefyd yn hyrwyddo gig mawr hanner can mlwyddiant ym mis Gorffennaf.

“Efallai bydd hwn, yn ei ffordd fach ei hunan, yn hwb bach i S4C hefyd. Bydd pobl yn meddwl – pam dydyn ni ddim yn gweld rhywbeth tebyg i hyn ar gyfryngau prif ffrwd?

“Nid jest rhaglenni fel hyn, ond y dull hwn o weithredu. Arfogi pobl yn y gymuned gydag offer syml i gyfrannu. Gallai fod yn rhyw fath o batrwm ar gyfer teledu lleol,” meddai Ffred Ffransis cyn dweud nad yw’n gwybod i le yn union y bydd y fenter yn arwain.

“Pan ddaeth criw o bobl o gwmpas y bwrdd i ymateb i ddarlith Saunders Lewis Tynged yr Iaith yn 1962 a dechrau trefnu ar gyfer protest Pont Trefechan dechrau ‘63 – doedden nhw ddim yn rhagweld beth ydyn ni’n gwneud rŵan.”

‘Heriol’

“Does ’na ddim digon o bethau heriol ar S4C. Yn y bôn, mae S4C yn  gorfod bod yn bopeth i bawb. Mae’n feirniadaeth adeiladol. Gyda’r ewyllys gorau yn y byd, fedr y sianel  ddim bod yn bopeth i bawb. Petai’r sianel yn llawn o raglenni hollol heriol byddai tipyn o’r gynulleidfa’n teimlo’n anghyfforddus am hynny.

“Efallai bod eisiau rhywbeth fel hyn – fwy heriol i roi hwb i S4C a chyfryngau eraill. Does gennym ni ddim rhag syniadau a rhagfarnau am ba fath o raglenni heriol i’w darlledu.

“Yn wahanol i S4C a chyfryngau mwy sefydliadol   – fyddwn ni ddim yn atal rhaglenni oherwydd eu bod yn heriol ond yn annog hynny . Ond, fyddwn ni ddim trio bod  yn heriol jest er mwyn bod yn heriol chwaith. Os yw pobl eisiau cyfrannu rhaglenni adloniant da ysgafn, fe gawn nhw wneud hynny.”

Her arall, meddai yw’r “dull o greu yn y modd hwn” a’r “math  o ffydd” y bydden nhw’n rhoi yn y gynulleidfa “yn hytrach na meddwl mai ni sy’n gwybod orau”.

“Dydyn ni ddim yn mynd i gomisiynu rhaglenni a dweud ein bod ni eisiau gwneud rhaglen benodol – rydan ni’n gwahodd cyfraniadau. Mae hynny yn wers bwysig hefyd, gallan nhw fod yn gyfraniadau cymunedol o bob rhan o Gymru.”