Mae academydd blaenllaw ym Mhrifysgol Bangor yn dweud bod mwy o bobol yn ffafrio codi cofeb i Owain Glyndŵr, Llywelyn Fawr neu Lywelyn ein Llyw Olaf yng Nghaerdydd adeg codi’r gofeb i Syr Thomas Picton.

Mae sawl deiseb wedi eu sefydlu dros y dyddiau diwethaf yn galw am dynnu cofebau o unigolion hanesyddol i lawr o fannau cyhoeddus oherwydd eu cysylltiadau â chaethwasiaeth.

Un cofeb yn benodol yw honno i Syr Thomas Picton yn y Neuadd Farmor yng Nghaerdydd.

Ond mae rhai o haneswyr Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith nad oedd y penderfyniad i osod y gofeb yma, hyd yn oed bryd hynny yn 1913, yn benderfyniad poblogaidd.

Yn ôl yr Athro Huw Pryce, doedd y penderfyniad i godi cofgolofn i gofio Syr Thomas Picton yng Nghaerdydd ddim yn benderfyniad poblogaidd o’r dechrau un.

Mae’n debyg iddo achosi tipyn o anghydfod, ac i sawl aelod o’r pwyllgor ymddiswyddo o ganlyniad i’r penderfyniad.

Ond mae’n debyg nad y gwrthrych oedd yn peri’r anghydfod, ond yn hytrach y ffaith nad Thomas Picton dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn y gystadleuaeth am gofeb yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Y bleidlais

“O ran cerflun Thomas Picton yn Neuadd Dinas Caerdydd, mae’n werth nodi iddo ef a Harri Tudur gael eu cynnwys yn groes i ganlyniad y pleidlais o blaid Griffith Jones Llanddawddor a Llywelyn Fawr,” meddai yr Athro Dylan Foster Evans, pennaeth yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ar Twitter.

Ac mae ei sylwadau wedi’u hategu gan yr Athro Huw Pryce, Athro Hanes Cymru, fu’n siarad â golwg360.

“Mae Dylan yn iawn,” meddai.

“Dim ond 49 pleidlais gafodd Picton o’u cymharu â 201 am Lywelyn Fawr , a 137 ar gyfer Griffith Jones.

“Y dewis mwyaf poblogaidd oedd Owain Glyndŵr – 295.

“Cafodd Llywelyn ap Gruffudd lai o bleidleisiau na Llywelyn Fawr – 145 yn lle 201, gan adlewyrchu’r duedd ar ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif i feddwl bod Llywelyn Fawr yn fwy o arwr na’i ŵyr – gan ei fod yn fwy rhesymol ac ymarferol ym marn Rhyddfrydwyr gwladgarol Cymru’r cyfnod.”

Griffith Jones, Harri VII a Syr Thomas Picton

Roedd Griffith Jones (1684-1761) yn enwog am sefydlu ysgolion ar hyd a lled Cymru i ddysgu pobl i ddarllen Cymraeg, er mwyn eu galluogi i ddarllen yr Ysgrythurau.

“Yng nghyfnod codi’r cerfluniau roedd yn symbol o ddeffroad crefyddol ac addysgiadol y werin yn y 18fed ganrif a oedd yn gonglfaen y dehongliad anghydffurfiol o hanes modern Cymru.”

Dywedodd yr Athro Huw Pryce nad yw’n siŵr pam y dewiswyd Harri VII a Picton yn lle Llywelyn Fawr a Griffith Jones.

“Yn unol â gofynion D. A. Thomas, a noddodd y cerfluniau” meddai , “ gadawyd y dewis terfynol i bwyllgor bach, sef

  • Syr T. Marchant Williams (1845-1914),
  • Athro Thomas Powel (1845-1922),
  • Athro Celteg, Coleg y Brifysgol Caerdydd, W. Llewelyn Williams (1867-1922),
  • AS Bwrdeistrefi Caerfyrddin.

“Hynny ydi, doedd dim bwriad, os rwy’n deall adroddiadau’r papurau newydd yn iawn, i seilio’r dewis ar nifer y pleidleisiau’n unig.”

Arwr

Yn ôl yr Athro Huw Pryce, rhaid cofio bod Syr Thomas Picton wedi ei ystyried yn arwr yng Nghymru byth ers iddo gael ei ladd yn Waterloo yn 1815.

“Roedd disgwyl i blant Cymru ei ddathlu ef ac Owain Glyndŵr mewn llyfryn Gŵyl Ddewi i’r ysgolion yn 1915 (arwyr  milwrol ar adeg o ryfel, wrth gwrs),” meddai.

“Doedd dim sôn am ei gyfnod yn Trinidad os cofiaf yn iawn.”