Huw Irranca-Davies (o'i wefan)
Fe fydd y Blaid Lafur yn parhau i bwyso am gadw’r corff sy’n amddiffyn cyflogau gweision fferm yng Nghymru.
Mae’r Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies, wedi sgrifennu llythyron a chynnal cyfarfodydd gyda Llywodraeth Prydain yn sgil deddf newydd a fydd yn cael gwared ar y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol.
Y nod fydd ceisio cael yr hawl i Lywodraeth Cymru greu ei Bwrdd ei hun er mwyn gofalu am gyflogau ac amodau gwaith pobol sy’n gweithio ar ffermydd.
Fe ddywedodd y Llefarydd Llafur ar Amaeth yn San Steffan, yr AS Cymreig, Huw Irranca-Davies, wrth Golwg360 y byddai dileu’r Bwrdd yn arwain at wasgu ar hawliau gweithwyr ac yn creu mwy o drafferthion i’r cyflogwyr hefyd.
Mwy na chyflogau
Roedd y Bwrdd yn cyfryngu rhwng ffermwyr a gweithwyr tros hawliau eraill hefyd, meddai, fel tâl gwyliau, tâl salwch, a chytundebau tenantiaeth pan fydd gweithwyr yn byw ar y ffermydd.
Roedd y ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin wedi dangos bwlch anferth rhwng gweinidogion y Llywodraeth Glymblaid a’r math o ffermio sydd yng Nghymru.
Doedd ganddyn nhw ddim syniad am amodau gwaith gweithwyr cyffredin, meddai.
Eisiau Bwrdd yng Nghymru
“Mae’n bwysig cael Bwrdd Cyflogau Amaethyddol i Gymru oherwydd natur wahanol ffermio yng Nghymru,” meddai Huw Irranca-Davies. “Yng Nghymru y dylai’r cyfrifoldeb fod.”
Fe fyddai’n cefnogi newid mewn deddfau er mwyn sicrhau hynny, meddai. Yn y ddadl yn y Senedd, roedd ef ac ASau Cymreig eraill wedi beirniadu’r Llywodraeth yn Llundain am fethu ag ystyried barn gwleidyddion yng Nghymru.
Dyma a ddywedodd llefarydd ar ran Alun Davies: “Dyw Llywodraeth Cymru ddim am weld ddiddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cynnal trafodaethau positif gyda DEFRA (yr Adan Amaeth yn San Steffan) ar y mater.”