Mae Rhys Mwyn wedi bod yn egluro wrth golwg360 pam nad yw’n fodlon ysgrifennu colofnau i Yr Herald Cymraeg yn ddi-dâl.
Mewn blog ar Ebrill 22, dywedodd Rhys Mwyn na fyddai’n parhau i ysgrifennu colofnau i’r Herald Cymraeg – atodiad i’r Daily Post ar ddydd Mercher – ar ôl iddo ef a phedwar colofnydd arall dderbyn e-bost yn egluro na fydden nhw cael eu talu, oherwydd y coronafeirws.
“Mae gwerth i’r golofn, mae gwerth i ddiwylliant Cymraeg,” meddai Rhys Mwyn ar ei flog wrth egluro pam nad oedd yn fodlon gwneud y golofn am ddim.
Bu Rhys Mwyn yn ysgrifennu colofnau i Yr Herald Cymraeg am dros ddeng mlynedd, gan drafod popeth o bop Cymraeg ac archeoleg i’r byd ehangach a materion gwleidyddol.
“Fy nheimlad i oedd gan fod y golofn yn rhan o fy ngwaith fel dyn hunan gyflogedig, nad oedd hi’n iawn i mi gyfrannu colofn yn ddi-dâl,” meddai wrth golwg360.
“Mae gen i gymaint o bethau i’w gwneud, ac felly doedd treulio dwy neu dair awr bob wythnos yn paratoi colofn am ddim, ddim yn gwneud synnwyr.”
Mae Rhys Mwyn yn gwneud llawer o’i waith yn wirfoddol, meddai, ond nid oedd yn fodlon darparu colofn am ddim i gwmni Reach PLC sydd biau Yr Herald Cymraeg.
“Mae’n hollol wahanol i weithio’n wirfoddol yng nghefn gwlad Cymru, pan mae yna ryw ddigwyddiad sydd methu talu i mi am rywbeth, dw i’n ei wneud o am ddim heb gwestiwn,” eglura Rhys Mwyn.
“Dw i erioed wedi cael fy nhalu am be dw i’n ei wneud yng Ngŵyl Arall [Caernarfon] oherwydd dw i’n byw yng Nghaernarfon ac am i’r arian fynd tuag at gynnal yr ŵyl.
“Dw i’m yn trio gwneud safiad – ond mae yna rywbeth i’w drafod yma, sef beth yw gwerth cynnwys Cymraeg?”
Llyfr archeoleg ar y gweill
Er nad yw’n ysgrifennu colofnau i’r Herald Cymraeg bellach, mae Rhys Mwyn yn dal i gadw’n brysur yn ystod y gwarchae.
Yn ogystal â chyflwyno ei sioe ar Radio Cymru bob nos Lun, mae wedi bod yn ysgrifennu llyfr archeoleg am dref Rufeinig Caer Gwent.
“Dw i wedi cael comisiwn i ysgrifennu llyfr i Gwasg Carreg Gwalch sy’n cynnwys grant, felly dw i wedi bod yn canolbwyntio ar hwnnw,” meddai wrth golwg360.
“Fel arfer, mi faswn i allan o’r tŷ dair neu bedair gwaith yr wythnos yn cynnal teithiau cerdded neu’n ymweld â safleoedd archeolegol.
“Y peth efo llyfrau archeolegol am rywle ydi bod angen mynd yno ond dw i ddim wedi gallu, felly dw i’n ysgrifennu sgerbwd rŵan a’i orffen pan fydda i’n gallu mynd yno.”
“Cadw’r groove i fynd”
Wrth drafod ei sioe radio nos Lun yma, mae Rhys Mwyn yn dweud y bydd yn “trio cadw pawb yn dawnsio yn y gegin gyda detholiad o ganeuon groovy.”
Ymysg yr artistiaid fydd yn cael eu chwarae bydd Roughion, Cofi Bach a Tew Shady, a Llwybr Llaethog.
“Un o’r pethau ydi ein bod ni’n trio cadw pawb yn dawnsio yn y gegin, chwarae beth faswn i’n chwarae mewn parti tŷ – cadw’r groove i fynd.
“Mae hi’n Ddydd Crysau-T Bandiau Cymraeg ddydd Gwener [nesaf] hefyd, felly byddwn ni’n rhoi sylw i hynna.”