Mae gwefan broAber360 wedi adrodd bod protest heddychlon wedi ei chynnal yn Aberystwyth neithiwr (Mehefin 4) i gofio George Floyd a chefnogi Black Lives Matter.
Gan barchu’r rheolau pellter dwy fetr sydd mewn grym oherwydd y coronafeirws, trefnwyd protest eistedd i lawr heddychlon ar draeth Y Ro Fawr, ac roedd trefnwyr y digwyddiad wedi annog pobol i wisgo masgiau.
Bu farw George Floyd, dyn croenddu, wrth i heddwas wasgu ei wddf gyda’i ben-glin ar Fai 25, gan sbarduno dyddiau o brotestio ar draws yr Unol Daleithiau.
Sefydlwyd Black Lives Matter yn 2013 gyda’r nod o ddileu goruchafiaeth pobol gwyn a chael gwared ar drais yn erbyn pobol croenddu.
“Hawl i gynnal protest heddychlon”
Cyn y brotest roedd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau eu bod yn ymwybodol bod protest heddychlon yn cael ei threfnu i gefnogi’r ymgyrch Black Lives Matter.
Dywedodd y llefarydd: “Mae’r Cyngor yn llwyr gefnogi’r hawl i gynnal protest heddychlon ac yn gofyn i bawb sy’n cymryd rhan i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â’r gofynion o ran cadw pellter cymdeithasol er mwyn diogelu iechyd pawb a fydd yn bresennol, ynghyd â thrigolion a’r cyhoedd yn gyffredinol yn ystod pandemig cyfredol Covid-19.”