Mae Martin Shipton wedi ei dynnu oddi ar banel beirniad Llyfr y Flwyddyn wedi iddo ffraeo ar Twitter ynghylch protestiadau Black Lives Matter.

Martin Shipton yw Prif Ohebydd y Western Mail, a thros y misoedd diwethaf mae wedi bod ynghlwm â’r gwaith o ddyfarnu pwy ddylai dderbyn y wobr lenyddol.

Bellach mae Llenyddiaeth Cymru, y corff sydd yn gyfrifol am y wobr flynyddol, wedi cyhoeddi na fydd yn parhau yn feirniad oherwydd ei sylwadau dros y penwythnos.

Mewn datganiad mae’r corff yn dweud ei fod wedi “arddangos ymddygiad sydd yn niweidiol i’n gwerthoedd a’n buddiannau fel sefydliad” a hynny thrwy “ei ddefnydd o iaith ymosodol” wrth drafod dilysrwydd protestiadau Black Lives Matter yng Nghaerdydd.

Mewn datganiad, mae Martin Shipton wedi dweud wrth golwg360 na chafodd y cyfle gan Llenyddiaeth Cymru i egluro’i ymddygiad.

“Wedi i mi fynegi fy mhryderon am y protest Black Lives Matter yng Nghaerdydd, oedd heb os yn torri rheolau Llywodraeth Cymru yn gwahardd mwy na dau o bobol yn ymgynnull yn gyhoeddus, fe ddes i yn destun bwlio ac ymosodiadau ciaidd wnaeth bara am ddyddiau,” meddai Martin Shipton.

“Roedd nifer o’r negeseuon trydar oedd yn cwestiynu fy hawl i fynegi barn, yn bwrw amheuaeth ar fy nghymwysterau fel newyddiadurwr ac yn ymosod arna i ar sail fy oedran.

“Un o fy egwyddorion pennaf yw peidio ildio i fwlis, felly fe wnes i amddiffyn fy hun gan ymateb yn gadarn i’r rhai fu’n ymosod arnaf.

“Heb roi i mi’r cyfle i esbonio fy hun, fe benderfynodd Llenyddiaeth Cymru fy nhynnu oddi ar y panel o feirniaid ar gyfer gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn…

“Credaf fod y penderfyniad yn rhyfedd ac yn groes i gyfiawnder naturiol.

“Rydw i wastad wedi bod yn gryf wrth hybu awduron Cymreig ac ni fydd y digwyddiad hwn yn newid hynny.”

Roedd Martin Shipton wedi “treulio amser maith” yn darllen tros 40 o lyfrau Cymreig er mwyn gallu beirniadu’r gystadleuaeth, meddai, ac roedd i fod i gael £500 am y gwaith.

Sylw Llenyddiaeth Cymru

“Mae ein gwerthoedd yn egwyddorion sydd yn rhan annatod o bwy ydym ni fel sefydliad,” meddai eu datganiad.

“Mae disgwyl i bawb sydd yn ymwneud â Llenyddiaeth Cymru … barchu a chydymffurfio â’r gwerthoedd hynny.

“Credwn fod gan bawb yr hawl i ryddid barn, fodd bynnag yn ein barn ni, mae un o’r unigolion hynny sydd wedi eu penodi yn un o feirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi arddangos ymddygiad sydd yn niweidiol i’n gwerthoedd a’n buddiannau fel sefydliad yn ystod gweithgarwch ar-lein diweddar trwy ei ddefnydd o iaith ymosodol.

“Gan hynny, gofynnwyd i Martin Shipton gamu o’r neilltu o’i rôl fel beirniad Llyfr y Flwyddyn, a hoffem ddiolch iddo am ei waith a’i gyfraniad tuag at Wobr Llyfr y Flwyddyn yn ystod y misoedd diwethaf.”

Ffraeo ar-lein

Mae Martin Shipton wedi trydaru toreth o negeseuon am y protestiadau Black Lives Matter ac mae’n ymddangos y cafodd y cyfan ei danio gan ei ymateb i sylw Ceidwadwr.

Ar dydd Sul wnaeth Andrew RT Davies, yr Aelod o’r Senedd, rannu fideo o brotestwyr yn gweiddi “ff**iwch yr heddlu” ger Downing Street.

“Roedd marwolaeth George Floyd yn erchyll, ond does wnelo hynny ddim byd â Downing Street,” meddai neges y Ceidwadwr uwchben y fideo.

Ymatebodd Martin Shipton i hynny gan ddweud: “Dydyn ni ddim yn cytuno’n aml, Andrew, ond dw i’n cytuno â thi ar hyn.”

Yn sgil hyn taniwyd ffrae danllyd, dros sawl diwrnod, gydag ambell Aelod o’r Senedd – gan gynnwys Neil McEvoy a Bethan Sayed – yn rhannu eu barn.

Dadl y newyddiadurwr

Ddydd Sadwrn diwethaf cafodd protest Black Lives Matter ei gynnal yng Nghaerdydd, ac mi fydd protest debyg yn cael ei chynnal yno’r penwythnos yma hefyd.

Hanfod dadl Martin Shipton yw bod dim gwerth protestio dros y mater yng Nghaerdydd, yn enwedig o ystyried bod Cymru dan glo achos covid-19.

“Os oes yna enghreifftiau penodol yng Nghymru i ni ddadlau trostyn nhw, beth am i ni wneud hynny,” meddai mewn un trydariad.

“Ond dw i’n methu â chytuno â gwneud twrw am rywbeth a ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau, ac sydd yn ddim byd i wneud â ni.

“Mae’n dangos meddylfryd 51fed talaith. Mae yna hiliaeth ledled y byd – allwn ni gael protest bob dydd.”