Mae Darren Millar, Aelod Ceidwadol o’r Senedd sy’n cynrychioli Gorllewin Clwyd, wedi galw am ymchwiliad i sut mae Llywodraeth Cymru wedi delio â’r pandemig coronaferiws.
Mae am weld ymchwiliad annibynnol wedi ei benodi gan Lywodraeth Cymru, dan arweiniad barnwr pan fydd y pandemig o dan reolaeth.
Dywed y dylai’r ymchwiliad hwn gael ei gyflawni cyn yr etholiad Senedd Cymru nesaf.
Wrth siarad cyn Dadl yr Wrthblaid, sy’n cael ei chynnal heddiw (dydd Mercher, Mehefin 3), dywed arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies:
“Mae’n hanfodol fod yr ymchwiliad hwn yn agored a thryloyw, ac yn hollol annibynnol o Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd yn y broses.
“Y peth olaf sydd ei angen yw ymchwiliad wedi ei reoli gan wleidyddion sy’n llusgo ymlaen am flynyddoedd.”