Roedd y “gwaith cenhadol” o gyflwyno dramâu Saunders Lewis i gynulleifaoedd di-Gymraeg yn rhan bwysig o waith y dramodydd Siôn Eirian, fel yr eglurodd wrth gylchgrawn golwg yn 2018.
Bryd hynny, roedd ei ddrama Woman of Flowers, ei fersiwn Saesneg o Blodeuwedd, ar daith yng Nghymru.
Yn hytrach na’i chyflwyno i gynulleidfa ddi-Gymraeg yn yr un modd ag y gwnaeth Saunders Lewis i gynulleidfaoedd Cymraeg, aeth Siôn Eirian ati i ddehongli’r ddrama mewn ffordd gwbl newydd.
Un o’r newidiadau hynny oedd manteisio ar amwysedd yng nghymeriad Gwydion, oedd yn cael ei chwarae yng nghynhyrchiad Pena gan yr actores Eiry Thomas.
“Fe wnes i gyfieithiad di-ffrils o ddrama Saunders yn 1992 ar gyfer Ceri Sherlock a’r Actors’ Touring Company, felly mi deithiodd y ddrama o gwmpas Cymru a rhai llefydd yn Lloegr a bwriad hynny oedd jyst dangos gwaith Saunders yn Saesneg i gynulleidfaoedd yng Nghymru a’r tu allan, ac o’dd hwnna’n brofiad difyr a braf,” meddai.
“Wnes i gwympo mewn cariad â barddoniaeth Saunders.
“Ond dros y blynyddoedd, wnes i feddwl fwyfwy pam fod cymeriad Arianrhod ddim yn nrama Saunders ac y gellid edrych yn ddyfnach ac yn bellach ar gymeriad Gwydion gan fod Gwydion yn gallu newid o fod yn ddyn i anifail, o ddyn i fenyw, bod ’na lot mwy o haenau i Gwydion yn fewnol nag o’dd yn nrama Saunders.
“Fuodd dim lot o drafod ar hynny, achos mae’r cwmni hyn, Pena, un o’r cryfderau sy gyda nhw, un o’r nodweddion yw bo nhw’n trio rhoi prif rannau i fenywod a gan bo ni’n sôn am Gwydion fel y ddau beth, dyn neu fenyw am yn ail, o’dd hi’n naturiol achos y cwmni o’dd yn mynd i’w berfformio fe, y bydden ni’n rhoi merch, actores i chwarae’r rhan yn hytrach nag actor.
“Wnes i feddwl am y ffaith fod Arianrhod a Gwydion yn frawd a chwaer, beth oedd y stori gefndirol wnaeth arwain at y frwydr fawr rhyngddyn nhw a brwydr o’dd yn cael ei chwarae allan drwy Blodeuwedd a Llew a Gronw.
“Mae bron fel bod y tri meidrolyn – Llew, Gronw a Blodeuwedd – fel pypedau yn nwylo y duwiau, a wnes i ddod â’r duwiau, y superheroes ’ma mewn i’r ddrama yma a chreu cymeriad hollol newydd gydag Arianrhod a chreu golwg newydd iawn ar Gwydion ac agor y ddrama reit allan i fyd gwahanol i’r un roddodd Saunders i ni.”
‘Haenau ychwanegol’
Fe ddywedodd iddo fynd ati’n fwriadol i ychwanegu “haenau ychwanegol” i’r ddrama.
“Mae lot o elfennau’n ein cludo ni i fyd arall, ddim jyst y perfformiadau wrth y chwech actor, ond mae’r haenau ychwanegol, yn enwedig y gerddoriaeth ddwfn, dywyll a’r gwisgoedd a’r taflunio ar y cefn yn mynd â chi i ryw fyd cyntefig tu hwnt sy mor wahanol i realiti y byd tu fas y theatr.
“Mae bron fel mynd ar reid y ghost train. Ti ddim yn torri hwnnw yn ei hanner. Mae rhaid cynnal y peth o’r dechrau i’r diwedd.
“Mae’r holl haenau technegol yn mynd â ni i fyd bron sinematig ei effaith. Mae pobol yn rhwydd eistedd drwy ddwy awr o ffilm dyddiau ’ma, felly pam na allan nhw wneud yn y theatr, yn enwedig pan y’n ni’n dod ag elfennau sinematig i’r profiad fel y’n ni yn hwn?”
Gweithiau eraill
Nid dyma’r tro cyntaf i Siôn Eirian fynd ati i weddnewid drama gan Saunders Lewis chwaith.
“Os llwyddith y ddrama hyn i ddod ag ambell un mewn sy’n anghyfarwydd â Saunders, at waith Saunders, bydd hi wedi llwyddo ar y lefel hynny, sy’n bwysig iawn,” meddai ar y pryd.
“Mi wnaethon ni gyfieithiad o Siwan, y teitl oedd The Royal Bed, dair blynedd yn ôl [yn 2015] ac mi ddaeth nifer o Gymry di-Gymraeg i weld y ddrama hynny ac eto, heb wybod llawer am gefndir Saunders a ddim wedi gweld cyfieithiad o’r ddrama ar lwyfan o’r blaen, oedden nhwythau hefyd eisiau edrych mwy ar waith Saunders, felly mae ’na fymryn bach o waith cenhadol mewn mynd â drama fel hyn rownd Cymru.”