Bydd S4C yn ail-ddangos uchafbwyntiau’r fuddugoliaeth 30-3 yn erbyn yr Hen Elyn yn 2013, heno am naw.
Y fuddugoliaeth honno yn Stadiwm y Principality wnaeth sicrhau mai Cymru fyddai’n cipio tlws y Chwe Gwlad, yn dilyn pencampwriaeth agos iawn.
Bydd talpiau o’r gêm yn cael eu darlledu gyda Jamie Roberts, Mike Phillips ac Andrew Coombs i’w gweld yn sgwrsio rhwng y chwarae.
Cyn dangos y rhaglen mae Jamie Roberts, cyn-ganolwr cyhyrog Cymru, wedi bod yn hel atgofion.
“Oes unrhyw gêm mor sbesial a chwarae yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd? Mae’n rhaid cofio hefyd oedd Lloegr yn dod i Gaerdydd i fynd am y Gamp Lawn,” meddai’r meddyg o Gaerdydd a enillodd cap rhif 53 dros Gymru yn y gêm yn erbyn Lloegr.
“Fi’n cofio’r wythnos yna ac yn meddwl: ‘Ni methu colli. Mae Lloegr yn chwarae am y Gamp Lawn yng Nghaerdydd, ac ni fyddwn ni’n gallu cerdded strydoedd Caerdydd am flwyddyn os fyddwn ni’n colli’.
“Fi’n gwybod ‘oedd pawb yn y garfan yn meddwl: ‘Ni methu colli’r gêm yma.
Trefnu’r noson allan ar y cae
Mae Jamie Roberts wedi datgelu ei fod ef a’r asgellwr Alex Cuthbert, wnaeth sgorio dau gais yn y gêm, wedi dechrau trefnu lle i fynd am noson allan gyda deng munud yn weddill o’r ornest.
“Fi’n cofio sefyll yn gwylio’r gic ar ôl i Alex sgorio, ac roedd Cuthy a finnau’n planio’r noson mas, yn ceisio dewis lle roedden ni am fynd mas – Revolution, Tiger Tiger neu rhywle arall!
“Roedd e’n eitha’ doniol i allu bod fel yna gyda deng munud i fynd!”