Aeth grŵp o weithwyr cefnogi ysgolion o bob rhan o Gymru i gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ddoe, dydd Mawrth, Mai 19.
Pwrpas y cyfarfod oedd egluro sut mae hi mewn gwirionedd mewn ysgolion sy’n gweithredu yn ystod y lockdown.
Trefnwyd y cyfarfod gan UNISON Cymru er mwyn annog y Gweinidog i beidio ag anwybyddu barn y miloedd o staff cynorthwyol wrth gynllunio i ail agor ysgolion i bob myfyriwr.
Ymhlith y gweithwyr cefnogi, sydd yn llawer mwy niferus nag athrawon, mae:
- Cynothwywyr addysgu
- Gweinyddwyr
- Cogyddion
- Goruchwylwyr Canol Dydd
- Glanhawyr
- Technegwyr
- Derbynyddion a Gofalwyr
‘Profiad anhygoel o ofalu am blant a chefnogi athrawon’
Dywedodd UNISON fod y cyfarfod yn un cadarnhaol a chroesawodd yn arbennig ddatganiad y Kirsty Williams fod angen sefydlu strategaeth brofi ac olrhain cyn derbyn mwy o blant i’r ysgol.
“Mae gan weithwyr cefnogi brofiad anhygoel o ofalu am blant a chefnogi athrawon,” meddai Jonathan Lewis, Cadeirydd Fforwm Gweithwyr Cefnogi Ysgolion UNISON Cymru.
“Felly mae’n hanfodol ein bod yn cael y cyfle i gyfrannu at gynllunio Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.
“Ni ddylai unrhyw ysgol agor nes ei bod yn ddiogel gwneud hynny.
“Fe ddywedon ni wrth Kirsty Williams am ein pryderon am sut y bydd ymbellhau cymdeithasol yn cael ei gynnal yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys amseroedd egwyl neu pan fydd staff yn cynorthwyo plant ifanc neu’r rhai ag anghenion arbennig gyda mynd i’r tŷ bach a chyfrifoldebau eraill gan gynnwys gweinyddu gofal personol.
“Mae UNISON yn awyddus iawn i barhau â’n trafodaethau gyda’r Gweinidog Addysg ar gynllunio ar gyfer ailagor ysgolion i bob myfyriwr. ”
Canllawiau pellach
“Mae nifer yr achosion o coronafirws yn uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig, sydd hefyd â niferoedd uwch o blant bregus” meddai Sharon Collier, gweithiwr cefnogi mewn ysgol ym Mlaenau Gwent.
“Roeddem yn gallu rhannu â’r Gweinidog bod staff cymorth ysgolion yn y cymunedau hynny’n teimlo y gallan nhw fod mewn mwy o berygl o gael eu heintio.
“Roedd Kirsty Williams yn awyddus i glywed barn UNISON ac roeddem yn falch o ddeall fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu canllawiau pellach ar sut y bydd ysgolion yn gweithredu yn y dyfodol, yn ogystal â hyfforddiant i bob aelod o staff ymhell cyn i ysgolion ailagor i bob myfyriwr.”