Mae Ysbyty Singleton yn Abertawe’n dweud bod nyrs fu farw o’r coronafeirws ar ôl bod yn gweithio yno ers 41 o flynyddoedd wedi gadael “bwlch enfawr”.

Bu farw Liz Spooner, 62, ar ôl profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Roedd hi’n gweithio’n bennaf yn uned gofal y galon.

“Mae Liz bob amser wedi rhoi o’i gorau, gan gynnig safon arbennig o ofal,” meddai Jan Worthing, cyfarwyddwr yr ysbyty.

“Roedd hi’n adnabyddus yn Singleton fel cydweithwraig wych, ofalgar a chanddi synnwyr digrifwch sych.

“Byddwn ni’n gweld ei heisiau’n fawr, ac mae ei marwolaeth yn gadael bwlch enfawr yn nheulu Ysbyty Singleton.

“Mae ein meddyliau gyda Zoe, merch Liz, a’i theulu.”