Bydd canolfannau ailgylchu yn dechrau ailagor yn ystod yr wythnos nesaf, ond mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi cyhoeddi y byddan nhw’n agor ar Fai 26.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio na ddylai’r canolfannau gael eu defnyddio gan unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws nac unrhyw un sy’n byw gyda rhywun sydd â symptomau’r coronafeirws.
Mae pob cyngor wedi cytuno ar gyfres o feini prawf cyffredin y bydd angen eu bodloni cyn bod modd ystyried ailagor safleoedd ailgylchu mewn modd diogel.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Bod nifer priodol o staff ar gael i weithredu’r cyfleusterau.
- Bod y safleoedd yn gallu cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch llym, gan gynnwys y gofynion o ran glanweithdra, cadw pellter cymdeithasol a’r goblygiadau o ran rheoli traffig.
- Bod trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r Undebau Llafur i gytuno ar y trefniadau ar gyfer unrhyw achosion o ailagor a gweithredu’r canolfannau.
Bydd agweddau gweithredol megis nifer y staff, pa mor addas yw’r safle ar gyfer cadw pellter cymdeithasol a’r eitemau gwahanol fydd yn cael eu casglu mewn gwahanol ganolfannau ailgylchu.
‘Gwasanaethau cyhoeddus allweddol’
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd ailagor canolfannau ailgylchu yn helpu i atal y cynnydd yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yn ystod y pandemig.
“Mae gan Gymru hanes o lwyddiant o ran ailgylchu ac rydym wedi bod yn cydweithio ag Awdurdodau Lleol yng Nghymru i ailagor Canolfannau Ailgylchu mewn ffordd ddiogel,” meddai Hannah Blythyn.
“Mae gwasanaethau rheoli gwastraff ac ailgylchu yn wasanaethau cyhoeddus allweddol ac, ar y cyd ag awdurdodau lleol, rydym wedi llunio canllawiau clir ar sut y gellir ailagor y canolfannau yn ddiogel er mwyn sicrhau lles staff a’r cyhoedd.”