Fe ddylai rhagor o ofalwyr fod yn gymwys i dderbyn bonws cyflog gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Plaid Cymru.
Ar ddechrau’r mis cyhoeddodd y Llywodraeth y byddan nhw’n rhoi £500 i 64,600 o weithwyr gofal yng Nghymru fel arwydd o’i gwerthfawrogiad.
Mae hynny’n gyfanswm o £32.2m, a daeth y cam yn sgil cyhuddiadau bod gweithwyr gofal yn cael eu trin yn israddol i weithwyr iechyd Cymru.
Ond mae’n debyg na fydd rhai gweithwyr gofal yn gymwys i dderbyn y bonws, ac mae’r Blaid wedi galw ar y Llywodraeth i fynd i’r afael â hynny.
Dywed Plaid Cymru fod gwaith y 370,000 o ofalwyr sydd ddim yn cael eu talu yn werth oddeutu £8.1bn i economi Cymru, ond oherwydd nad ydyn nhw wedi cael eu cofrestru byddan nhw ddim yn derbyn yr un taliad a gofalwyr cofrestredig.
Gwaith “amhrisiadwy”
“Mae’n rhaid cydnabod cyfraniad y [gweithwyr yma] yn yr un ffordd,” meddi Delyth Jewell, llefarydd Plaid Cymru tros faterion Llywodraeth Leol.
“A hynny am eu bod yn darparu gofal yn anhunanol, a gofal sydd yr un mor amhrisiadwy â hwnnw sy’n cael ei ddarparu gan ofalwyr a’r rheiny sydd ar y gofrestr.”
Ymhlith y rheiny a ddylai dderbyn y taliad, yn ôl Plaid Cymru, mae gofalwyr sydd ddim yn cael eu talu, a gweithwyr sydd heb gael eu cofrestru.
Yn yr Alban bydd 83,000 o weithwyr yn gymwys i dderbyn bonws o £230.10 gan y Llywodraeth yno.
“Prif faes gad covid-19”
Mae marwolaethau coronafeirws mewn cartrefi gofal wedi bod yn dipyn o destun trafod dros yr wythnosau diwethaf.
Ac mae ffigurau’n dangos bod cyfran go uchel o farwolaethau’r haint yn digwydd yn y cartrefi yma.
Yn ystod wythnos olaf Ebrill, digwyddodd 40% o farwolaethau Covid-19 Cymru a Lloegr mewn cartrefi gofal.
“Cartrefi gofal yw prif faes gad Covid-19, ac rydym wedi ei esgeuluso am gyfnod rhy hir,” meddai Niall Dickson, un o brif ffigyrau’r maes iechyd.
Mae’n Brif Weithredwr Cydffederasiwn y GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol), corff sydd â swyddfeydd yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon.