Mae dwy o weithwyr carchar y Berwyn yn Wrecsam wedi’u harestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau yn eu meddiant gyda’r bwriad o’u dosbarthu.

Cafodd y ddwy, sy’n 29 a 32 oed, eu harestio hefyd ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Mae’r ddynes 29 oed hefyd wedi’i harestio ar amheuaeth o wyngalchu arian.

 

Fe ddaw yn dilyn ymchwiliad gan Uned Troseddau wedi’u Trefnu, lle cafodd sawl eiddo yn y Fflint eu harchwilio, lle daeth yr heddlu o hyd i gyffuriau dosbarth B, gemwaith a dillad brand.

 

Cafwyd hyd i gyffuriau dosbarth A yn y carchar hefyd.

 

Carchar y Berwyn, gafodd ei agor fis Chwefror 2017, yw’r ail garchar mwyaf yn Ewrop, ac mae lle yno i 2,106 o garcharorion gwrywaidd categori C.