Fe fydd pobol yn cael teithio ar drenau yn India eto heddiw (dydd Mawrth, Mai 12), wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio ychydig.
Daw’r newyddion drannoeth y cynnydd dyddiol mwyaf yn nifer yr achosion o’r feirws hyd yn hyn.
Bydd rhaid i deithwyr wisgo mygydau a phasio profion iechyd cyn bod modd iddyn nhw deithio, a bydd trenau’n stopio llai nag arfer.
Does neb wedi gallu teithio ar drên yn y wlad ers diwedd mis Mawrth.
Achosion newydd
Bydd y trenau cyntaf yn cludo miloedd o weithwyr sydd wedi gorfod aros mewn dinasoedd ymhell o’u cartrefi yn ystod y gwarchae.
Ddoe (dydd Llun, Mai 11), cafodd 4,213 o achosion newydd eu cofnodi.
Mae mwy na 67,000 o achosion wedi’u cofnodi yno, ac mae 2,206 o bobol wedi marw.
Mae disgwyl i’r gwarchae ddod i ben yn llwyr erbyn Mai 17, a bydd y prif weinidog Narendra Modi yn cyfarfod â phenaethiaid y taleithiau i drafod y cyfyngiadau cyn hynny.