Mae’r berthynas rhwng llywodraethau Cymru a Phrydain ar fater y coronafeirws yn un “dameidiog”, yn ôl Mark Drakeford.

Daw ei sylwadau ar raglen Sophy Ridge on Sunday ar drothwy newidiadau posib i gyfyngiadau’r coronafeirws yn Lloegr.

 

Mae disgwyl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gyhoeddi unrhyw newidiadau am 7 o’r gloch heno (nos Sul, Mai 10) ond mae Mark Drakeford yn dweud y gallai unrhyw newidiadau mawr i’r hyn sydd ar waith yng Nghymru achosi dryswch.

 

“Pan fo yna ymgysylltu, mae’n dda ac yn fuddiol, a dw i’n difaru na allwn ni gael rhagor,” meddai.

Ar fater agor ysgolion eto, mae’n dweud y byddai unrhyw newid yn “arwyddocaol” ond “nid yn ddigynsail”.

“Mae ein gwyliau ysgol yn wahanol yng Nghymru i Loegr nawr,” meddai.

“Wrth i ni adeiladu’r boblogaeth ysgol i fyny yng Nghymru, fe wnawn ni hynny wrth drafod â’r undebau athrawon, awdurdodau lleol ac, yn bwysig iawn, gyda rhieni hefyd, ac fe wnawn ni’r penderfyniadau sy’n iawn i Gymru.

“Mae’n bosib y byddan nhw’n wahanol, mewn modd cynnil, i’r hyn sy’n digwydd yr ochr draw i’r ffin, ond fe fydd y cyfeiriad rydyn ni’n symud iddo – gyda dymuniad i allu dechrau defnyddio ysgolion i fwy o blant ac i ddychwelyd mwy o blant i’r ysgol – yn uchelgais rydyn ni’n ei rannu.”