Mae heddluoedd Cymru yn apelio ar bobl Cymru i barhau i ddilyn canllawiau’r llywodraeth yn dilyn cyhoeddiad Mark Drakeford y bydd y cyfyngiadau symud yn parhau am dair wythnos arall.
Maen nhw hefyd yn pwysleisio na fydd y newidiadau, fel y rhai ynghylch gadael y tŷ i ymarfer corff, yn dod i rym tan ddydd Llun.
“O’r herwydd, rydym yn pwyso ar ein cymunedau i barhau i ddilyn y rheoliadau fel maen nhw’n sefyll ar hyn o bryd,” meddai Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Carl Foulkes, mewn datganiad ar ran prif gwnstabliaid Cymru.
“Mae’r neges yn dal yn glir – mae rheoliadau’n dal mewn grym ac fe fydd plismyn yn dal allan dros y penwythnos Gŵyl Banc ac nid yw ein dull o blismona wedi newid.”