Bu farw Oriel Jones, cyn-berchennog un o ladd-dai mwyaf adnabyddus Cymru, yn ei gartref yn Llanfihangel-ar-Arth yn 89 oed ddydd Iau.
Mae’n cael ei ddisgrifio ar wefan Clonc360 fel ‘y gŵr a roddodd Llanybydder ar y map’, ar ôl sefydlu’r lladd-dy llewyrchus a fu’n cyflenwi archfarchnadoedd ledled Prydain a thramor.
“Roedd yn ddyn teulu hoffus, yn ddyn busnes craff, yn ŵr bonheddig ac yn gefnogwr brwd i bopeth lleol,” meddai Dylan Lewis, gohebydd Clonc360.
Roedd Oriel Jones wedi cychwyn ei rownd gig ei hun yn 21 oed, ac yn ddiweddarach dechreuodd ladd anifeiliaid ar ei dyddyn gan gyflenwi siopau cigydd lleol.
Yn 1978, cafodd lladd-dy pwrpasol newydd ei godi yn Llanybydder, ac erbyn diwedd yr 1980au roedd yn prosesu mwy na 5,000 o ŵyn y dydd. Cafodd y cwmni ei brynu gan Dunbia yn 2001.
Daliodd Oriel Jones i chwarae rhan flaenllaw mewn cymdeithasau amaethyddol yng Nghymru, ac mae ei enw’n parhau ar siop gigydd ei ŵyr Shaun yn Nhreganna, Caerdydd.