Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ddifrodi ceir yn Ysbyty Cwm Cynon dros y penwythnos.

Yn ôl yr heddlu, mae dyn yn ei 50au o Aberpennar wedi ei gyhuddo o ddifrodi ceir oedd wedi’u parcio yn y maes parcio dros nos wrth i’r nyrsys weithio.

Mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr ym mis Gorffennaf.