Mae arolwg newydd yn dangos bod gwahaniaethau mawr rhwng nifer y profion COVID-19 sydd ar gael i weithwyr y GIG Cymru a’r nifer sydd ar gael i staff sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol a’r rhai a gyflogir gan asiantaethau nyrsio.
Mae’r arolwg gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn edrych ar argaeledd profion COVID-19 i weithwyr yn y sector gofal yn y Deyrnas Unedig.
Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos mai dim ond 16 prawf ar weithwyr cartrefi gofal a gwblhawyd yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac mae’r arolwg diweddaraf yma yn dangos mai dim ond 16% o weithwyr y sector a ofynnodd am brawf a gafodd gynnig un.
Ddim yn ddigonol
Dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru: “Rwy’n bryderus iawn, mae tystiolaeth gan ein haelodau yn dangos nad yw’r mynediad i brofion yn y sector cartrefi gofal wedi bod yn ddigonol.”
“Mae gennym fwy na 600 o gartrefi gofal ledled Cymru ac mae staff nyrsio yn darparu gofal hanfodol i’r boblogaeth fregus hon.
“Mae gan weithwyr gofal yr un hawl i brofion â staff GIG Cymru.
“Rwyf am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod profion ar gael yn eang i’n holl aelodau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
“Dydy’r ystadegau ddim digon da.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru ei bod hi wedi codi’r mater gyda’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Mark Drakeford nad oedd gwerth profi pawb mewn cartrefi gofal fel sy’n digwydd yn Lloegr, ond bellach mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd profion yn cael eu cynnal mewn cartrefi lle mae achosion o’r feirws wedi’u hamau yn ogystal a’u cadarnhau.