Mae Bethan Gwanas wedi bod yn codi cwr y llen ar y broses o sgrifennu dilyniant i Gwrach y Gwyllt.
Fe gafodd y nofel honno am wrachod nwydwyllt ei chyhoeddi yn 2003, ac mae’r awdur yn cydnabod nad pawb oedd yn ffan.
“Mae Gwarch y Gwyllt fel Marmite,” meddai Bethan Gwanas wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.
“Mae yna bobol sydd wedi ei mwynhau hi’n ofnadwy, ac mae yna bobol sydd heb ei hoffi hi o gwbl. Mae pobol yn agored iawn efo fi.
“Mae gennych chi ddarnau eitha’ gwaedlyd, ac nid pawb sy’n licio pethau’ felly. Mae gennych chi ddarnau reit rywiol, ac nid pawb sy’n hoffi darllen pethau felly yn Gymraeg! Dydi hi ddim am apelio at bawb.”
Y nofel newydd
Roedd y llyfr newydd, Merch y Gwyllt, i fod i gael ei lansio yn Sesiwn Fawr Dolgellau ym mis Gorffennaf, ond mae’r dyddiad cyhoeddi bellach yn ansicr oherwydd argyfwng y coronafeirws.
Ond mae cylchgrawn Golwg wedi cael caniatâd i gyhoeddi talp o’r bennod gyntaf, sydd yn rhifyn yr wythnos yma.
Hefyd yn y cylchgrawn mae’r awdur yn egluro ei bod hi’n eitha’ petrus cyn dangos y nofel orffenedig newydd i unrhyw un.
“Am fod yna cynifer o flynyddoedd wedi mynd ers i fi sgrifennu erotica, ro’n i’n reit nerfus,” meddai Bethan Gwanas.
“A dw i yn berson gwahanol hefyd. Mi gymerodd hi sbel i mi ymlacio digon i fi fwrw iddi! Dydi o ddim yn hawdd…”
Cyfweliad llawn gyda Bethan Gwanas a thalp o Merch y Gwyllt yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg