Dylai pob gweithiwr iechyd fod yn gymwys am daliad ‘marwolaeth mewn swydd’, yn ôl Plaid Cymru.

Bydd teuluoedd staff meddygol sy’n marw wrth weithio yn gymwys i dderbyn taliad £60,000, dan y cynllun yma gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r taliad yn benodol ar gyfer y rheiny sy’n helpu cleifion covid-19, ac mi fydd y cynllun mewn grym am gyfanrwydd cyfnod yr argyfwng.

Pryder Plaid Cymru yw bod yna bobol sy’n cyfrannu at yr ymdrech na fyddai’n gymwys, gan gynnwys myfyrwyr meddygaeth a chyn-ddoctoriaid (y rheini sydd wedi dychwelyd i’w gwaith).

Ac mae ei llefarydd tros faterion iechyd, Rhun ap Iorwerth, wedi galw am driniaeth “gydradd” i bob gweithiwr iechyd.

“Dyled” i staff meddygol

“Mae teuluoedd y doctoriaid yma – sy’n peryglu’u bywydau – yn wynebu’r risg o fod heb gymorth ariannol digonol, os bydd eu hanwylyd yn marw yn ystod yr argyfwng,” meddai’r Aelod Cynulliad.

“Bydd yn wastad arnom ddyled i’n gweithwyr iechyd sydd wedi gweithio mor ddewr yn ystod y cyfnod yma o argyfwng i gadw ein gwlad mor ddiogel ac iachus ag sy’n bosib.

“Y lleia’ gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw sicrhau bod pob staff iechyd, a’u teuluoedd, yn cael eu diogelu yn ystod y cyfnodau heriol yma.”

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Fel y dywedwyd yn flaenorol, mae’r cynllun a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn ychwanegol at unrhyw gynllun budd-daliadau sy’n bodoli eisoes, ac nid yw’n dibynnu ar gyfraniadau.

“Rydym wedi ei wneud yn glir ers y dechrau nad yw’n gysylltiedig â chynllun pensiwn y GIG, ac mae’n berthnasol i weithwyr y GIG a’r sector gofal cymdeithasol fel ei gilydd.”