Fe fydd cyllid gwerth £10miliwn yn cael ei ddarparu i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru – i helpu pobl sydd wedi gwella o’r coronafeirws fynd adref ynghynt.

Fe fydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru hefyd yn helpu i ariannu gwasanaethau cymunedol sy’n cefnogi’r ymateb i’r coronaferiws drwy helpu pobl i aros gartref yn ddiogel.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y £10miliwn yn helpu i ddarparu’r canlynol:

  • Ehangu’r cynlluniau rhyddhau o’r ysbyty
  • Capasiti ychwanegol o fewn y gymuned i ofalu am bobl sydd wedi dod adref o’r ysbyty
  • Sicrhau bod cleifion mor annibynnol â phosibl ar ôl gwella o’r coronaferiws, gan gynnwys prynu offer ar gyfer eu cartrefi
  • Gwasanaethau cymunedol estynedig er mwyn lleihau’r pwysau ar ofal sylfaenol a gofal eilaidd.

“Mae ein gwasanaethau a’n sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwbl hanfodol o ran sicrhau bod y rhai sydd wedi gwella o Covid-19 yn dychwelyd i le y dylent fod – eu cartrefi,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething.

“Bydd y cyllid hwn yn sicrhau y byddant, wrth adael yr ysbyty, yn cael eu cefnogi’n llawn mewn ffordd sy’n addas ar gyfer eu hanghenion unigol. Mae hyn yn hanfodol bwysig.”