Gallai Cymru deimlo effaith y coronafeirws fwy nag unman arall yn y Deyrnas Unedig.

Dywed Jeremy Miles, a fydd yn gyfrifol arwain Cymru o’r argyfwng ar ôl y pandemig, y gallai effaith y coronaferiws fod yn “ddyfnach a mwy difrifol” oherwydd poblogaeth hŷn y wlad a’i sefyllfa economaidd.

Ddoe (dydd Mercher Ebrill 29) cyhoeddodd Jeremy Miles y byddai’n cael ei gefnogi yn ei gynlluniau adfer gan grŵp allanol sy’n cynnwys y cyn Brif Weinidog Gordon Brown.

Daw hyn wedi i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi bod 73 yn fwy o bobl wedi marw ar ôl profi’n bositif am yr afiechyd, gan gymryd cyfanswm Cymru i 886, gyda’r nifer o achosion yn codi 117 i 9,629.

Roedd y ffigyrau dyddiol yn cynnwys y 31 marwolaeth roedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi eu tan-adrodd.

“Mae’r coronafeirws yn newid bywydau pawb, ond bydd hefyd yn cael effaith hirdymor ar ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus ac ein cymunedau,” meddai Jeremy Miles.

“Mae ein poblogaeth hyn yn ogystal â’n sefyllfa economaidd yn golygu y gallai effaith y feirws fod yn ddyfnach a mwy difrifol nag mewn mannau eraill.”

Dywed Jeremy Milles y bydd penderfyniadau ar gyfer adfer yn cael eu tywys gan “gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.”