Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi bod yn amlinellu’r cymorth fydd ar gael i deuluoedd gweithwyr rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd sy’n marw wrth eu gwaith wrth drin cleifion coronafeirws.

Mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru am sefydlu cronfa yn cynnig cefnogaeth ariannol, yn enwedig i deuluoedd y rhai sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’n dweud y bydd swm unigol o £60,000 ar gael.

Daeth yr eglurhad wrth iddo dalu teyrnged i staff y Gwasanaeth Iechyd yn dilyn munud o dawelwch.

“Mae hynny’n ychwanegol hefyd, ac nid yn lle unrhyw gytundebau pensiwn eraill,” meddai yn ei gynhadledd heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 28).

“Fydd hyn fyth yn gallu llenwi’r bwlch sydd wedi’i adael pan fydd rhywun yn marw.

“Fodd bynnag, gobeithio y bydd yn mynd tuag at gynnig tawelwch meddwl a sicrwydd ariannol i’w hanwyliaid.”

Agor canolfan brofi yn Llandudno

Yn y cyfamser, mae Vaughan Gething hefyd yn dweud y bydd canolfan brofi Llandudno yn agor yfory (dydd Mercher, Ebrill 29).

Fe ddaw wrth iddo gadarnhau bod capasiti Cymru wedi cynyddu i 2,000 o brofion bob dydd.

Bydd y ganolfan newydd ar gael i weithwyr iechyd yn y gogledd sydd â symtomau’r feirws, a bydd modd cynnal profion ar weithwyr hanfodol a rhoi cit hunan-brofi heb fod rhaid iddyn nhw adael eu ceir.

Bydd canolfan debyg yn agor yng Nghaerfyrddin ddydd Iau (Ebrill 30), meddai.