Mae timau heddlu yn y gymuned yn defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad â phobol yn ardal Dyfed-Powys.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw eisiau gwneud yn siŵr nad ydi Covid-19 yn rhwystr rhag cyfathrebu â’r gymuned, ac felly yn addasu eu harferion er mwyn cadw cysylltiad.

“Roedd yr alwad Skype cyntaf yn bositif iawn,” meddai’r Arolygydd Katie Davies.

“Fe ymunodd aelodau o’r cyngor a’r cyhoedd gyda ni, ac roedd yn gyfle i roi gwybod i bobol pa fesurau sydd yn eu lle wrth i ni ddelio â’r coronafeirws, ac iddyn nhw ofyn cwestiynau.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen am ein galwad nesaf yr wythnos hon.”

Aelodau bregus o’r gymuned

Yn Sir Benfro, mae yna sesiynau Zoom wythnosol yn cael eu cynnal gyda phobol fregus sydd yn gallu galw a sgwrsio am unrhyw faterion sydd ganddyn nhw.

Yn ôl y Sarjant Terri Harrison, roedden nhw’n gofidio’n benodol am y posibilrwydd o gael eu stopio gan yr heddlu.

“Roedden nhw’n poeni, oherwydd gorbryder, na fydden nhw’n medru egluro pam eu bod nhw allan.

“Mae gan y mwyafrif gerdyn ASD neu gerdyn Blodyn Haul.

“Awgrymais y dylen nhw fynd â’r rhain allan gyda nhw, yn ogystal â rhif ffon rhywun fyddai’n gallu siarad ar eu rhan pe baen nhw’n methu.

“Yna, anfonwyd e-bost i bob swyddog yn Sir Benfro gyda chyswllt i’r cynllun fel eu bod yn adnabod y cerdyn ac yna’n medru delio â grwpiau bregus mewn modd mwy deallus.”