Mae 14 yn rhagor o bobol wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws, yn ôl ffigurau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Sul, Ebrill 26).

Ac mae 178 o achosion newydd wedi’u hadrodd.

Mae’n golygu bod cyfanswm o 788 o bobol bellach wedi marw yn sgil y feirws yng Nghymru, tra bod cyfanswm o 9,078 o bobol wedi’u heintio.

Ond yn sgil y ffordd mae profion yn cael eu cynnal, mae disgwyl i’r ffigurau go iawn fod dipyn yn uwch.