Fe fydd myfyrwyr meddygol yn eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn ymuno â’r Gwasanaeth Iechyd wrth iddyn nhw drin cleifion â’r coronafeirws.

Byddan nhw’n cefnogi timau meddygol mewn ysbytai ac yn gweithio mewn ysbytai maes yn ystod ymlediad y feirws – swyddi band 2 y Gwasanaeth Iechyd.

Byddan nhw’n ymgymryd â gwaith hylendid, bwyd ac arsylwi cleifion sy’n cael eu trin gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mae hyd at 3,800 o fyfyrwyr gofal iechyd yn ymuno â’r Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru, gan ymgymryd â swyddi sy’n addas ar gyfer lefel eu hyfforddiant.

Mae mwy na 2,000 o gyn-weithwyr gofal iechyd wedi cofrestru i ddychwelyd i’r gwaith, tra bod nifer o staff wedi cwblhau cyrsiau er mwyn cynnig cymorth ymarferol.

Cafodd sesiynau eu cynnal yn Stadiwm Liberty yn y ddinas yr wythnos diwethaf, ac roedd cannoedd o bobol yno yn cadw at reolau ymbellháu cymdeithasol.

“Eisiau chwarae rhan”

Un o’r rhai fydd yn ymgymryd â’r gwaith yw Charlie Nicholls, myfyrwraig 23 oed o Swydd Berkshire.

“Os galla i fynd i mewn a bod o gymorth i rywun, gwych – does dim ots os nad ydw i’n gwneud rhywbeth meddygol, hyd yn oed os dw i jyst yn rhywun i gynnal sgwrs,” meddai.

“Dw i eisiau chwarae rhan, dw i eisiau gallu dweud ’mod i wedi gwneud rhywbeth i helpu, a gobeithio y galla i wneud rhyw fath o wahaniaeth.”

Un arall yw Slade Badenhorste, 22, o Swydd Derby.

“Cawson ni gynnig swydd gan y brifysgol i helpu i leddfu rhywfaint o’r pwysau mewn ysbytai ac o bosib mewn rhai o’r ysbytai maes,” meddai.

“Fel myfyrwyr meddygol, gallan nhw ein gwthio ni drwy’r hyfforddiant ychydig yn gynt ac mae gyda ni brofiad clinigol – rydyn ni wedi bod ar wardiau.

“Os galla i helpu, pam lai?”