Mae dyn o ardal Manceinion wedi cael ei arestio ar ôl i’r heddlu gwrso ei gar angladdol.

Fe geisiodd y dyn ddianc yn y car wrth yrru’n wyllt ar yr M60 ger Denton ar gyrion y ddinas neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 25).

Pan wnaeth yr heddlu ei orchymyn i stopio, fe lwyddodd i ddianc ar gyflymdra uchel cyn i’r heddlu lwyddo i’w ddal.

Ond roedd arogl canabis yn y car, ac fe ddaeth yr heddlu o hyd i’r cyffuriau, clorian a rasal.

Cafodd y gyrrwr 29 oed ei arestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, bod â chyffuriau dosbarth A a B yn ei feddiant, bod â llafn yn ei feddiant, atal gwaith yr heddlu, gyrru’n groes i’w drwydded, gyrru heb yswiriant ac ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau.

Cafodd rhagor o gyffuriau eu darganfod pan aeth yr heddlu i chwilio’i gartref.

Mae’r dyn wedi’i ryddhau wrth i’r ymchwiliad barhau.

“Pa fath o angladd oedd e’n mynd iddo?” meddai’r heddlu wedyn ar eu tudalen Facebook.