Mae Clwb Pêl-droed y Rhyl wedi cyhoeddi eu bod wedi dechrau’r broses o ddirwyn y cwmni i ben.

Dywed datganiad ar wefan y clwb bod y pandemig coronafeirws, problemau gyda pherchennog cae’r tîm, y Belle Vue, yn ogystal â chostau cyffredinol, wedi gorfodi cyfarwyddwyr y clwb i gymryd y cam.

Yn ôl y clwb, un o’r problemau mwyaf y mae wedi ei wynebu dros y blynyddoedd diwethaf yw’r berthynas gyda pherchennog y cae. Mae’r clwb yn talu £24,000 y flwyddyn am les ar y cae, les a oedd fod i ddarfod ymhen pedair blynedd.

Dros y degawd diwethaf, dywed y clwb fod y Cadeirydd wedi gwneud sawl cynnig i brynu’r cae, gyda’r cynigion yn “fwy na’i werth marchnad”, ond fod y perchenog wedi gwrthod gwerthu’r cae ar bob achlysur.

Mae hyn, yn ei dro, wedi golygu fod y clwb yn anghymwys ar gyfer nifer o grantiau buddsoddi.

“Mae hwn yn ddydd emosiynol iawn i bawb sy’n gysylltiedig gyda’r clwb,” meddai Cadeirydd Clwb Pêl-droed y Rhyl, Paul Higginson.

Coronaferiws

Mae’r pandemig coronaferiws hefyd wedi cael effaith ar sefydlogrwydd tymor byr y clwb, gyda’r diffyg gemau’n broblem amlwg. Fodd bynnag, yn ôl y clwb, mae’r coronafeirws hefyd wedi effeithio ar eu gallu i wneud ymdrechion i godi arian.

Mae’r clwb wedi cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ond nid oedd y “benthyciad bychan” gafodd ei gynnig yn bosib oherwydd diffyg sicrhad. Hefyd, mae’n debygol bod y Gymdeithas yn ymwybodol y gallai sawl clwb arall wynebu problemau tebyg yn y misoedd i ddod.

Ymateb

Mae nifer o bobol amlwg ym myd pêl-droed Cymru wedi ymateb i’r newyddion.

Dywedodd cyn-chwaraewr Wrexham, Manchester United ac Everton, sydd hefyd â 50 cap dros Gymru, Micky Thomas: “Mae hyn yn golled enfawr i bêl-droed Cymru. Mae yna gymaint o bobol wedi rhoi eu hamser sbâr i’r clwb dros y blynyddoedd.

“Efo lwc mae yna rywun allan yna allai gymryd yr awenau ac achub y clwb pêl-droed Cymreig eiconig hwn.”

“Trist iawn clywed y newyddion am Glwb pêl-droed Rhyl,” meddai cyn-gapten Manchester City a rheolwr Cei Connah, Andy Morrison.

Y dyfodol

Mae datganiad y clwb yn rhoi rhywfaint o obaith at y dyfodol, fodd bynnag. Nodir bod y cyfarwyddwyr wedi cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Cefnogwyr y Rhyl gan egluro’r sefyllfa bresennol ac edrych ar opsiynau, megis dechrau clwb pêl-droed newydd yn y dref i barhau â 141 o flynyddoedd o hanes.