Mae Vaughan Gething yn dweud bod llai na’r nifer disgwyliedig o brofion coronafeirws wedi’u cynnal oherwydd bod cyflwyno gwarchae wedi bod yn llwyddiannus.

Fe ddaw wrth i 25 o farwolaethau gael eu cyhoeddi yn y bwletin dyddiol, sy’n mynd â chyfanswm Cymru i 609, gyda 7,850 o achosion wedi’u cadarnhau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod dan y lach yn sgil diffyg profion yn cael eu cynnal, gyda dim ond 1,033 wedi’u cynnal ddoe (dydd Llun, Ebrill 20).

Yn ei gynhadledd wythnosol i’r wasg, dywed y Gweinidog Iechyd fod yna “dystiolaeth bod y coronafeirws yn cael effaith mwy ac anghyfartal ar bobol o gefndiroedd du, Asiaidd, lleiafrifol ac ethnig (BAME)”.

Dywed bod adroddiad gan yr UK Intensive care National Audit and Research Centre yn nodi fod traean y bobol sydd mewn unedau gofal dwys mewn ysbytai yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dod o’r cefndiroedd yma.

Fodd bynnag, dyw pobol o’r grwpiau ethnig yma ddim ond yn cyfri tuag at 18% o’r bobol sydd wedi eu heintio gyda coronafeirws yn y Deyrnas Unedig.

Galw am ymchwil

“Mae angen ymchwilio ar frys pam bod pobl o gefndiroedd BAME yn edrych fel petai nhw mewn mwy o risg o coronafeirws a pha ffactorau sy’n rhan o hyn,” meddai Vaughan Gething.

Dywed y bydd tîm o Lywodraeth Cymru yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i gasglu tystiolaeth a data i astudio a oes yna risgiau neu ffactorau sy’n achosi i’r grwpiau yma fod mewn mwy o risg.”

Bydd hyn yn “ein helpu i wneud penderfyniadau yngyn â’r angen i ddarparu cyngor wedi’i deilwra i bobol o’r cefndiroedd yma”, meddai.

Byrddau iechyd ddim am gael eu cosbi dros wariant coronafeirws

Dywed Vaughan Gething “na fydd byrddau iechyd Cymru’n cael eu cosbi am wario arian sydd angen cael ei wario yn ystod y pandemig hwn.”

Fodd bynnag, dywedodd ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud a fyddai Llywodraeth Cymru yn cynnig ad-daliadau i’r byrddau iechyd.

Nid oedd yn fodlon dweud chwaith a fyddai dyledion byrddau iechyd yn cael eu maddau, ond dywedodd fod Llywodraeth Cymru “wastad wedi gwneud yn siwr fod biliau yn cael eu talu” ac addawodd i fod yn “agored gyda’r ffigyrau.”