Wrth i’r sôn ddechrau o ddifri am ffyrdd o godi’r cyfyngiadau a llacio rheolau’r feirws, mae angen yn fwy nag erioed i Lywodraeth Cymru weithredu’n gadarn.
Yr awgrym ydi gallai rhai rhannau o’r ‘wlad’ (aka Lloegr) weld llacio o flaen y gweddill ohonon ni os bydd y graff salwch yn gostwng ynghynt yn fan’no.
Y peryg ydi wedyn y bydd pobol yr ardaloedd hynny – ardaloedd poblog Llundain a’r Midlands – yn cymryd bod ganddyn nhw’r hawl wedyn i deithio ble y mynnan nhw a heidio eto i’w tai haf a’u carafanau.
Mae’n rhaid gwneud yn siŵr na fydd hynny’n digwydd. Mae’n rhaid cael rheolau sy’n gwahardd pobol rhag teithio ymhell ac, yn sicr, rhag mynd ar wyliau neu symud i ail gartref. Dyna un ffordd y gall y Llywodraeth yng Nghaerdydd ein gwarchod ni.
Gobeithio, y tu hwnt i hynny, y bydd yna newid agwedd at y fasnach dai haf a melltith airbnb. Nid dim ond am resymau diwylliannol, ond oherwydd economi hefyd.
Mae’r argyfwng wedi dangos sut y mae’r ail gartrefi yn dreth ar ein gwasanaethau ni a be ydi cost y diwydiant ymwelwyr ei hun (ochr yn ochr â’r incwm y mae’n ei greu).
Mae’r syniad o dreth dwristiaeth, fel sydd mewn llawer o wledydd eraill, yn ymddangos yn fwy deniadol fyth ond y peth pwysica’ ydi cael rheolaeth dynnach o lawer ar y ffenomenon fasnachol sy’n bwyta canol ein cymunedau ni.
O’r hyn gofia’ i, mi ddechreuodd airbnb fel ffordd fach we-ddaidd, answyddogol, i bobol logi ambell ystafell yn eu cartrefi i gael ychydig bres poced; mae bellach yn ddiwydiant sydd wedi ystumio’r farchnad dai a gwanhau’r diwydiant twristiaeth traddodiadol.
Os ydi llawer o berchnogion airbnb wedi gwneud sbort o’r system gynllunio a’r system drethi, felly hefyd y perchnogion ail gartrefi sy’n godro’r system drethi busnes a hyd yn oed gronfeydd cymorth y Covid-19.
Mae yna rai pethau sy’n ymddangos yn amlwg. Mi ddylai pob tŷ ha’ gael ei drethu’n drwm; mi ddylai pob eiddo airbnb masnachol gael ei drin felly ac mi ddylai bod rhaid cael caniatâd newid defnydd i droi cartrefi yn fusnesau o’r fath.
Mae’r argyfwng wedi dangos y peryg fod cefn gwlad (mewn rhannau o Loegr hefyd) yn cael eu troi’n adnodd cyfleus at ddefnydd yr heidiau cefnog o’r dinasoedd. Mae angen i’n Llywodraeth ein diogelu rhag hynny hefyd.