Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi cymorth parhaus i’r Swyddfa Dramor yn eu hymdrechion i ddod â dinasyddion adref o dramor.
Mae hyn yn cynnwys Cymry sy’n dal mewn gwledydd tramor ar hyn o bryd o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud byd-eang oherwydd y coronafeirws.
“Mae ein rhwydwaith o 21 o swyddfeydd tramor yn gweithio gyda’r Swyddfa Dramor ac yn chwarae eu rhan yn ailwladoli dinasyddion o Gymru ledled y byd, gan gynnwys o Beriw, India, Fietnam, De Affrica, Awstralia a Seland Newydd,” meddai’r Farwnes Eluned Morgan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Eluned Morgan
“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos hefyd â’r Swyddfa Dramor ar achos ymgynghorydd gofal dwys o ogledd Cymru sydd yn dal yn India.
“Rydym yn annog yn gryf bod dinasyddion o Gymru sydd dramor ar hyn o bryd yn dychwelyd adref cyn gynted â phosibl.”
Ffred a Meinir Ffransis
Roedd Ffred a Meinir Ffransis yn styc ym Mheriw tan yn ddiweddar wedi i’r wlad gau ei ffiniau ar Fawrth 15, gyda dim ond 24 awr o rybudd.
Ar ôl cyrraedd adref, roedd Ffred Ffransis yn feirniadol o Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab am eu hymateb i’r sefyllfa, gan eu galw’n “amaturaidd” wrth siarad â golwg360.
“Dyma yw meddylfryd Llywodraeth Brexit, dim paratoadau, gwrthod cydweithio’n rhyngwladol, ac mae hyn o bosib yn arwydd o bethau i ddod,” meddai bryd hynny.