Mae teyrngedau wedi’u rhoi i barafeddyg o Abertawe sydd wedi marw ar ôl cael ei heintio â’r coronafeirws.

Gerallt Davies, 51, yw’r parafeddyg cyntaf o Gymru i farw yn sgil y feirws, yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans.

Roedd e’n gweithio yng ngorsaf Cwmbwrla y ddinas, ac roedd e wedi bod yn gwasanaethu ers 26 o flynyddoedd.

Roedd e hefyd yn un o brif swyddogion Ambiwlans Sant Ioan yng Nghymru.

Teyrnged y Gwasanaeth Ambiwlans

“Roedd Gerallt Davies MBE yn barafeddyg yng ngorsaf Cwmbwrla yn Abertawe, ac mae ei golli’n ergyd drom i ni i gyd,” meddai Jason Killens, prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG y Gwasanaeth Ambiwlans.

“Bydd colli Gerallt yn cael ei deimlo’n fawr gan bawb yma yn nhîm Ymddiriedolaeth GIG y Gwasanaaeth Ambiwlans, ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu.

“Ein ffocws nawr yw cefnogi teulu a chydweithwyr Gerallt sy’n galaru ar yr adeg anodd iawn hon.”

Teyrnged Unite

Mae undeb Unite hefyd wedi talu teyrnged iddo.

“Mae hyn yn newyddion eithriadol o drist,” meddai Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol yr undeb.

“Dw i eisiau talu teyrnged i Gerallt ar ran holl deulu Unite.

“Roedd Gerallt yn unigolyn hynod boblogaidd ac yn weithiwr ymroddedig i’r Gwasanaeth Iechyd, ac yn aelod o’n hundeb ers dros 25 o flynyddoedd.

“Cafodd ei wasanaeth anhygoel i gymorth cyntaf fel rheolwr gweithrediadau cenedlaethol i Sant Ioan yng Nghymru ei wobrwyo â’r MBE y llynedd.

“Bydd colled fawr ar ei ôl e ymhlith ei gyd-aelodau Unite, ei gydweithwyr a phawb oedd yn ddigon ffodus i’w adnabod e.

“Roedd Gerallt yn arwr ochr yn ochr â’n holl staff yn y Gwasanaeth Iechyd.

“Bob dydd, maen nhw’n anhunanol wrth roi eu hunain mewn perygl i’n gwarchod ni i gyd rhag y feirws ofnadwy yma.

“Pan fydd hyn i gyd ar ben, rhaid i ni fyth anghofio eu gwasanaeth dewr a’r aberth maen nhw i gyd wedi’i gwneud.

“Mae Unite Cymru yn cynnig ein holl gefnogaeth ac yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Gerallt yn ystod yr amser anodd yma.”