Mae person arall wedi cael ei arestio fel rhan o ymchwiliad i achos o geisio llofruddio dyn 21 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd dyn 25 oed ei arestio yn ardal Llanisien fore heddiw (dydd Sul, Ebrill 19) ar amheuaeth o geisio llofruddio, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae dau ddyn arall bellach wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.

Ac mae dyn 27 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, tra bod dyn 31 oed sydd wedi’i amau o geisio llofruddio wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.

Mae Keiron Hassan, 32, o Drelái wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl mynd gerbron ynadon yng Nghaerdydd ddydd Gwener (Ebrill 17), a’i gyhuddo o geisio llofruddio.

Y digwyddiad

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn Rhymni am 3.25 brynhawn dydd Llun, Ebrill 13 yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol.

Cafwyd hyd i ddyn oedd wedi’i anafu â machete a dryll, ac fe fu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth frys yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae e bellach wedi cael mynd adref, ond mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac yn apelio am wybodaeth.