Mae Carwyn Ellis wedi ryddhau cân newydd er mwyn hybu ymgyrch i brynu offer gwarchodol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae’r cerddor, a gafodd ei fagu yn Ynys Môn, wedi rhyddhau ei drac newydd Cherry Blossom Promenade ar Bandcamp.
Bydd yr holl elw yn mynd i’r fenter wirfoddol Tarian Cymru er mwyn prynu offer gwarchodol ar gyfer gweithwyr mewn ysbytai, cartrefi gofal, a safleoedd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
Mae Carwyn Ellis wedi bod yn gyfrifol am gyfansoddi Dere Mewn a Hapus? gyda’i fand Colorama, ac, yn ddiweddarach, wedi cael enwebiad Gwobr Gerddoriaeth Gymreig am yr albwm Joia! gyda’r band Carwyn Ellis & Rio 18.
Dywed Carwyn Ellis ei fod yn awyddus helpu pan welodd y gwaith oedd Tarian Cymru yn ei wneud.
“Gwasgfa amser yw popeth yn y sefyllfa hon, mae fy label recordio wedi’i leoli ym Madrid, ac roeddent yn rhan o gynllun o’r enw ‘Music For Gloves’ a ddechreuwyd yn Sbaen i godi arian ar gyfer menig clinigol yno Cyfrannais gwpl o alawon i’r prosiect,” meddai.
“Roedd y blychau o offer a oedd yn barod i fynd ar ôl dim ond ychydig ddyddiau yn dangos y gallai ein gweithredoedd a’r rhoddion a ddilynodd wir yn gwneud gwahaniaeth.
“Felly pan welais i fod yna bobl o’r un anian yng Nghymru eisiau gwneud yr un peth, mi wnes i wirfoddoli. Cerddoriaeth yw’r hyn rwy’n ei wneud, felly dyna dwi’n ei roi.
“Mae’n syfrdanol bod y sefyllfa hon hyd yn oed yn digwydd yn ein hysbytai a’n cartrefi gofal. Rwy’n cefnogi Tarian Cymru yn llwyr ac unrhyw sefydliad eraill sy’n ceisio cefnogi a diogelu ein gweithwyr iechyd.”