Mae teithiwr o Birmingham wedi cael dirwy am ddod i Gymru dros benwythnos y Pasg.

Cafodd y gyrrwr a theithiwr eu stopio gan yr heddlu yn Sir Benfro a’i ddirwyo.

Cafodd yr heddlu wybod fod yr unigolyn wedi dod i Gymru i gasglu beic modur.

“Nid yw hyn yn daith hanfodol, yn amlwg,” meddai’r heddlu.

“Hysbysiad wedi’i roi a’r cerbyd wedi’i droi am yn ôl.”

Mae’r heddlu’n rhybuddio y byddan nhw’n cosbi unrhyw un sy’n cael ei stopio am yr un drosedd, wrth i Lywodraeth Prydain barhau i gynghori pobol i beidio â theithio oni bai bod gwir raid.