Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod cyflwr William Powell yn gwella.

Cafodd y cyn-Aelod Cynulliad, sydd wedi bod yn gynghorydd ym Mhowys ers 2017, ei daro’n wael â’r coronafeirws dros bythefnos yn ôl.

Ond dywed y blaid ei fod e’n dal mewn uned gofal dwys yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni.

Datganiad

“Rydym yn falch o allu cadarnhau, bod William Powell, y Democrat Rhyddfrydol, yn gwella bythefnos a hanner ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty â Covid-19,” meddai’r blaid mewn datganiad.

“Er ei fod e’n dal mewn uned gofal dwys ar hyn o bryd, mae e’n ymateb yn dda i driniaeth ac yn ymwybodol eto.

“Mae e wedi derbyn triniaeth ragorol gan staff y Gwasanaeth Iechyd yn Ysbyty Nevill Hall, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud, i’n cadw ni’n ddiogel ac yn iach.

“Gofynnwn i bobol barhau i barchu preifatrwydd ei deulu ar hyn o bryd, ond rydym yn hynodd ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydyn ni wedi ei gweld dros yr wythnosau diwethaf.”