Nid yr heddlu ddylai orfod plismona’r rheolau newydd fod rhaid i weithwyr gadw pellter o ddwy fetr rhwng ei gilydd, yn ôl Comisiynydd Heddlu’r Gogledd.
Daeth deddf Llywodraeth Cymru i rym heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 7), wrth i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, ddweud bod rhaid i gyflogwyr “roi anghenion eu gweithwyr yn gyntaf”.
Ac er bod Arfon Jones yn gefnogol i’r ddeddf ac am “weld gweithwyr yn cael eu gwarchod,” dywed mai mater i swyddogion iechyd a diogelwch ydyw yn hytrach na’r heddlu.
“Mae gan yr heddlu ddigon o waith i’w wneud wrth geisio stopio pobol rhag teithio i Gymru a sicrhau fod pobol yn aros adref,” meddai wrth golwg360.
“Swyddogion iechyd a diogelwch ddylai fod yn gyfrifol am blismona’r rheoliadau ac mae gan awdurdodau lleol hefyd rôl i’w chwarae.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi brysio’r ddeddfwriaeth hon.”
Newydd neud cyfweliad i @Golwg360 ynglyn a deddfwriarth hunan ynysu yn y gweithle a disgwyliad @LlywodraethCym i’r Heddluoedd yng Nghymru orfodi cydymffurfio ar ddeddfwriaeth. Ellith yr Heddlu ddim bod yn mhobman, mae angen @healthandsafety a @WelshLGA “step up to the plate”
— Arfon Jones 🏴🏴🌈🌈 (@ArfonJ) April 7, 2020