Mae deuawd arbennig ac unigryw ar grŵp Facebook Côr-ona wedi dod â dau hen ffrind yn ôl at ei gilydd ar ôl mwy na phymtheg mlynedd.
Roedd Bethan Harkin a Chris Davies yn gyd-ddisgyblion yn Abertawe yn niwedd y 1990au a dechrau’r 2000au.
A hithau’n athrawes yn Ysgol Bro Gwaun ac yntau’n gweithio ym myd cerddoriaeth, ffilm a theledu yn Llundain, daeth cyfle unigryw yn ddiweddar i “gydweithio” ar brosiect dros y wê.
Mae’r ddau yn aelodau o’r grŵp Facebook ‘Côr-ona’, sydd wedi’i sefydlu gan Catrin Toffoc i roi’r cyfle i bobol bostio fideos o ganeuon yn ystod ymlediad y coronafeirws, gyda themâu amrywiol yn cael eu cynnig bob dydd.
Her Côr-ona
Ar Fawrth 26, fe wnaeth Chris Davies ymateb i’r her o bostio fersiwn o gân Disney, a phenderfynu rhoi ei stamp ei hun ar y thema.
Postiodd e berfformiad o’r gân ‘Let It Go’ o’r ffilm Frozen, ond wedi’i chymysgu â chân John Legend, ‘All Of Me’, gan sylwi ar y tebygrwydd yn nhrywydd y gerddoriaeth.
Yn y cyfamser, roedd Bethan Harkin yng Nghymru wedi cael ei hysbrydoli ar ôl gweld y fideo.
“Welais i fideo Chris ar Côr-ona ac o’dd e’n lyfli i weld e’n chwarae,” meddai wrth golwg360.
“O’n i’n cwcan yn y gegin tra’n gwrando a ffeindio’n hunan yn canu gyda Chris yn chwarae.
“Felly, meddyliais i ddanfon y fideo iddo fe.
“Mae’n rhaid bod e’n bymtheg mlynedd plus ers i fi weld Chris diwetha’, ond wedi’i nabod e ers o’n ni’n dair oed yn yr ysgol gynradd!
“Wnes i ddanfon y fideo iddo fe, ddim yn meddwl dim o’r peth, a ges i neges lyfli ’nôl ’dag e!
“Wnaethon ni hala’r noswaith yn tecstio a dala lan – rili lyfli!
“Mae’n od shwd mae’r byd ’ma’n tynnu pobol at ei gilydd, on’d yw e?!”
- Mae modd gwylio’r fideo trwy fynd i’r dudalen Facebook.
‘Wrth fy modd’
Mae Chris Davies yn dweud ei fod e wrth ei fodd pan welodd fod Bethan Harkin wedi mynd ati i greu’r ddeuawd 280 milltir i ffwrdd.
Fel yr eglurodd mewn neges ar Facebook ar y pryd, “Ro’n i wrth fy modd pan welodd hen ffrind i mi, Bethan Harkin, fy neges a phenderfynu canu i ’nghyfeiliant.
“Roedd llais Bethan uwch fy mhen i’n canu’r biano yn syrpreis hyfryd ac fe wnaeth i fi wenu go iawn.”
Ac mae’n dweud wrth golwg360 fod bod yn aelod o’r grŵp Côr-ona yn “ffordd arbennig o gysylltu”.
“Pa well ffordd o ail-gysylltu â hen ffrindiau, athrawon ac ati na thrwy gân a cherddoriaeth yn gyffredinol?
“Dw i’n credu bod yna gyfyngiadau bob amser sy’n ein dal ni’n ôl rhag cysylltu â phobol o ddydd i ddydd (tu allan i amseroedd y pandemig!) – gor-feddwl, falle, fod pobol yn rhy brysur i fod eisiau clywed gan hen ffrindie?
“Ond mae amgylchiadau y feirws erchyll yma wedi uno cymdeithas ar draws y wlad, ac ar draws y mwyafrif o’r byd yn y ffordd mae pawb yn yr un cwch – yn sydyn, mae gan bawb amser.
“Amser i groesawu’r neges yna gan hen ffrind coll, amser i ail-gysylltu a thrwy ryfeddod technoleg fodern, medru cael pleser o ganu cân gyda’n gilydd dim ots pa mor bell ry’n ni’n byw oddi wrth ein gilydd, fel Bethan a minnau, gyda Bethan yn Sir Benfro a fi yn nwyrain Llundain.
“Ymlaen â’r gân, ddyweda’ i!”
Prosiect nesaf Chris Davies
A thra fod gan Chris Davies fwy o amser nag arfer ar ei ddwylo yn ystod y pandemig, mae e eisoes wedi troi ei sylw at brosiect cydweithredol arall sydd hefyd wedi’i ysbrydoli gan grŵp Côr-ona.
Fe wnaeth e ac Ian Edwards gyd-gyfansoddi’r gân ‘Yr Ochr Orau’ yn 2011 pan oedd Chris yn byw ag Elin, a ddaeth yn wraig i Ian yn ddiweddarach.
“Wnaethon ni fyth ei rhyddhau hi,” meddai Chris am y gân.
“Ond fe wnaeth ‘Gwener Gwreiddiol/Gwallgo’ ar y grŵp newydd ar Facebook (a sefydlwyd i uno cerddorion Cymraeg ar draws y byd) fy sbarduno i ail-edrych ar y gân.
“Wnes i ddarganfod fod y geiriau yn iasol o addas at y sefyllfa bresennol.
“Rwy wedi gosod rhai delweddau cyfredol a chyfoes ar ben y trac fel teyrnged i’r holl waith anhygoel mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gwneud ar hyn o bryd.”